Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

17 Gorffennaf 2012

Wrecsam a’r Ffordd i Lwyddo

Cafwyd agoriad swyddogol ffordd mynediad newydd stad ddiwydiannol Wrecsam heddiw, gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Gludiant.

Yn ystod y seremoni agoriadol, torrodd y Gweinidog faner dros un o’r pontydd newydd a adeiladwyd dros y ffordd a dadorchuddiodd blac gaiff ei osod mewn llechen ar Fynedfa Ogleddol y ffordd.  Agorwyd y ffordd wedyn i fintai o dros 60 o gerbydau’n ymwneud a’r Stad Ddiwydiannol a deithiodd dros y bont i’r Stad.

Mae’r ffordd sydd werth £30.3 miliwn yn cynnig mynediad gwell a newydd i’r Stad o’r de a’r gogledd. Hon yw un o stadau mwyaf Ewrop, ac mae’r gwaith wedi ei ariannu’n llwyr gan Lywodraeth Cymru.

Penododd Cyngor Wrecsam gwmni Birse Civils i wneud y gwaith adeiladu ac mae eu partneriaeth lwyddiannus wedi golygu bod y gwaith o adeiladu’r ffordd wedi ei orffen ar amser ac o fewn y gyllideb.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae hwn yn brosiect sy’n dangos Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i gyflwyno blaenoriaethau lleol ar amser ac o fewn y gyllideb.”

“Drwy well cysylltiadau, bydd y Stad Ddiwydiannol yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn gwella ansawdd bywyd i drigolion ger y stad ddiwydiannol oherwydd y bydd traffig trwm yn osgoi eu cartrefi.”

“Mae’r ffordd fynediad newydd hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella’r isadeiledd cludiant ymhellach ledled Cymru, a bydd yn chwarae rhan allweddol mewn gwella gallu busnesau ar y Stad i gystadlu.”

Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Maer Wrecsam:

“Dyma ddiwrnod hanesyddol i Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ei busnesau a’i gweithwyr, sydd wedi aros mor amyneddgar am yr agoriad hwn.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i’r ardal drwy sicrhau bod yr arian ar gael ar gyfer y cyswllt hanfodol hwn a’r Stad.”

Dywedodd Paul Bird, Cyfarwyddwr Masnachol, Birse Civils North:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i orffen y gwaith yn gynt na’r disgwyl. Gweithiodd y tîm yn ddiflino i gyflwyno’r prosiect gyda chyn lleied o darfu ar y gymuned leol  a phosibl, ac mae’n sicr y bydd y ffyrdd a grëwyd o fudd mawr i Wrecsam a’r gymuned ehangach.”

Mae’r ffordd newydd yn dod a chyfleoedd newydd ar gyfer buddsoddi yn Wrecsam, sydd â chysylltiadau ffyrdd rhwydd a’r Gogledd Orllewin ac mae o fewn dwy awr i gyrraedd traean poblogaeth y DU a hanner ei diwydiant gweithgynhyrchu.

Nodwyd yr angen am y cyswllt hanfodol hwn yn ôl yn yr 1970’au a daeth yr arian ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y 1990’au.  Ers yr amser hwnnw, mae gwaith ymgynghori a pharatoi ac ymchwiliad cyhoeddus helaeth wedi ei wneud cyn cyrraedd diwrnod agor y ffordd heddiw.

www.facebook.com/#!/wrexhamcouncil

yn ôl i'r brig