Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
22 Rhagfyr 2011
Gwobrwyo Enillydd y Ffenestr Nadolig OrauMae busnes teuluol sydd wedi bod yng nghanol y dref ers 125 o flynyddoedd wedi ennill Cystadleuaeth y Ffenestr Nadolig Orau, a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam.
Llwyddodd Siop Gig Hugh John Jones, yn Stryd Henblas, i guro 33 o safleoedd eraill mewn cystadleuaeth anodd iawn a derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau gan siopwyr.
Symudodd y perchnogion Giles a Louise Jones o Farchnad y Cigyddion i’r siop yn Stryd Henblas yn 2010.
Meddai Giles: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill y gystadleuaeth a hoffem ddiolch i bob cwsmer sydd wedi pleidleisio i ni, ac sydd wedi helpu i wneud ein busnes mor llwyddiannus eleni.”
Meddai’r Cynghorydd Rodney Skelland, Aelod Arweiniol dros Adfywiad a Rheolaeth Gorfforaethol:
“Roedd y gystadleuaeth eleni’n fwy poblogaidd nag erioed, a chafwyd bron i 900 o bleidleisiau gan siopwyr. Rhaid llongyfarch pob siop a gymerodd ran am eu hymdrech i helpu i wneud Wrecsam yn lle deniadol lle gall pobl fwynhau mynd i wneud eu siopa Nadolig.
Cyflwynwyd eu gwobr i Giles a Harvey Jones, sef tocyn i gael pryd o fwyd ym Mwyty Thai Dao Siam, Stryd Charles, gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ian Roberts.
Enillodd un siopwr lwcus o Wrecsam, Mrs Sarah Henshaw, Fasged o Ddanteithion y Nadolig pan dynnwyd ei phleidlais hi o’r het.