Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

05.12.06

Lansio Ymgyrch “Galw Amser ar Droseddau Treisiol” 2006

Wrth i’r gwyliau nesáu a phawb yn cynllunio nosweithiau allan i ddathlu’r Nadolig, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn brysur yn sicrhau bod pawb yn cael amser da a bod canol y dref yn parhau i fod yn lle diogel.

Mae’r Bartneriaeth yn ymroddedig i ostwng lefelau trais a throseddau sy’n ymwneud ag alcohol yng nghanol tref Wrecsam ac heddiw mae’n amlinellu rhai o’r mentrau a fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod pawb yn mwynhau ac yn ddiogel.

Eleni, bydd blychau siarad yn cael eu rhoi ar Lan yr Afon a’r Stryt Fawr i roi gwybod i bobl bod camerâu cudd yn cadw llygad arnynt a bod eu hymddygiad yn cael ei fonitro. Bydd y cerbyd ymateb cyflym yn brysur dros y Nadolig hefyd a bydd dau parafeddyg yn gallu rhoi triniaeth ar ymyl ffordd neu asesu mân-anafiadau yn y dref. Bydd hyn yn lleihau’r galw am driniaeth yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys ac yn sicrhau ymateb prydlon i ddamweiniau ac anafiadau yng nghanol y dref.

Bydd bugeiliaid stryd Wrecsam yn cynyddu nifer y nosweithiau y maent allan hefyd a byddant yn cynnig cyngor ymarferol a chymorth i’r rhai sydd wedi yfed gormod. Bydd staff drysau a stiwardiaid tacsis yn hawdd i’w gweld yn eu siacedi llachar.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys posteri a chrysau T "Galw Amser ar Droseddau Treisiol" a bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i dafarndai a chlybiau’r ardal. Bydd y peryglon o rywun yn “speicio” eich diod yn cael eu hamlygu ymysg pobl ifanc a bydd cloriau poteli ar gael i gwsmeriaid.

Bydd dathlwyr yn cael lolipop ar ddiwedd y noson a dengys ymchwil genedlaethol fod hyn yn cael effaith leddfol ar bobl ac yn gostwng y tebygrwydd o drais.

Mae mentrau eraill yn cynnwys defnyddio TCC i adnabod pobl sy’n adnabyddus am greu trafferth er mwyn eu symud o’r ardal.

Dywedodd Malcolm Russell, Cadeirydd y Bartneriaeth:

"Mae hyn yn ymwneud â phartneriaeth. Byddwn yn gweithio’n agos gyda thafarndai er mwyn edrych ymlaen at Nadolig gan wybod bod Wrecsam yn lle diogel i bobl ddod iddo a mwynhau noson allan gyda ffrindiau a theulu. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad treisiol a gwrthgymdeithasol a byddwn yn ymdrin â thramgwyddwyr yn gyflym."

Dywedodd yr Arolygydd Chris Beasley;

"Mae ein neges yn glir; hoffwn weld pawb yn mwynhau eu hunain a bod yn ddiogel yng nghanol y dref. Fodd bynnag, bydd unrhyw un sy’n mynnu sbwylio hwyl rhywun arall yn cael ei symud o’r ardal yn gyflym ac yn effeithiol."

yn ôl i'r brig