Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
16 Rhagfyr 2011
Mae Cyngor Wrecsam yn atgoffa deiliaid tai i fwrw golwg ar eu Calendr Ailgylchu gyda Michael mewn da bryd er mwyn gweld y newidiadau dros gyfnod gŵyl banc y Nadolig.
Bydd y casgliadau’n dal i gael eu cynnal a bydd y casgliad arferol olaf yn digwydd ar ddydd Gwener Rhagfyr 23ain. Yna bydd rhaid i ddeiliaid tai edrych ar eu calendrau er mwyn gweld dyddiad y casgliad nesaf neu gallant fwrw golwg ar www.wrecsam.gov.uk er mwyn cael yr wybodaeth.
Cofiwch y bydd bagiau gwyrdd a du (neu las) allan o finiau ar olwynion, yn dal i gael eu casglu bob yn ail trwy gydol y gaeaf. Bydd blychau a sachau ailgylchu yn dal i gael eu casglu bob wythnos.
Bydd trefn y casgliadau yn dilyn y patrwm arferol unwaith eto o ddydd Llun Ionawr 18fed ymlaen.
Os bydd tywydd garw yn tarfu ar y casgliadau yna bydd y Cyngor yn gwneud ei orau glas i roi gwybod i ddeiliaid tai. Bydd gwybodaeth i’w gweld ar dudalen flaen eu gwefan yn www.wrecsam.gov.uk trwy ddilyn y ddolen at “tywydd garw” ac hefyd trwy gyfrwng ein rhif Strydoedd o Fri, sef 01978 298989.
John Bradbury yw Pennaeth Adran yr Amgylchedd, ac meddai:
"Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae cartrefi’n cynhyrchu mwy o sbwriel nag arfer.
“Os byddwch chi’n colli’r cyfle i gael gwared â’ch sbwriel, gall hynny fod yn fater rhwystredig. Felly byddwn yn annog pob teulu i gael gwybod pryd, yn union, y byddwn yn dod i nôl eu sbwriel er mwyn iddynt sicrhau ei fod ar y pafin erbyn 7.30 y bore.
“Fe hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o’n trigolion am ein cynorthwyo ni. Heb eu cymorth hwy ni fyddem wedi gallu gwella ein cyfraddau ailgylchu sydd, eleni, wedi cynyddu 5% i 47%.”
Dyma’r dyddiadau newydd dros y Nadolig:
Diwrnod Casglu Arferol/Diwrnod Casglu Newydd
Dydd Llun 26 Rhagfyr - Dydd Mercher 28 Rhagfyr
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr - Dydd Iau 29 Rhagfyr
Dydd Mercher 28 Rhagfyr - Dydd Gwener 30 Rhagfyr
Dydd Iau 29 Rhagfyr - Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr
Dydd Gwener 30 Rhagfyr - Dydd Mawrth 3 Ionawr
Dydd Llun 2 Ionawr - Dydd Mercher 4 Ionawr
Dydd Mawrth 3 Ionawr - Dydd Iau 5 Ionawr
Dydd Mercher 4 Ionawr - Dydd Gwener 6 Ionawr
Dydd Iau 5 Ionawr - Dydd Sadwrn 7 Ionawr
Dydd Gwener 6 Ionawr - Dydd Llun 9 Ionawr
Dydd Llun 9 Ionawr - Dydd Mawrth 10 Ionawr
Dydd Mawrth 10 Ionawr - Dydd Mercher 11 Ionawr
Dydd Mercher 11 Ionawr - Dydd Iau 12 Ionawr
Dydd Iau 12 Ionawr - Dydd Gwener 13 Ionawr
Dydd Gwener 13 Ionawr - Dydd Sadwrn 14 Ionawr