Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
01 Rhagfyr 2011
Mae myfyrwyr ar gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Iâl unwaith eto wedi cipio gwobr Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Yn Erbyn Yfed a Gyrru gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru gyda’u fideo byr o’r enw Colli Prydferthwch (A Lost Beauty).
Dyma’r ail waith mewn tair blynedd y mae myfyrwyr cyfryngau Coleg Iâl wedi ennill y brif wobr o £500, yn ychwanegol at y £200 a gawson nhw am ennill gwobr Wrecsam yn gyntaf.
Dywedodd arweinydd y cwrs, Tony Pugh
“Mae hwn yn ganlyniad gwych i’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol o ystyried mai’r myfyrwyr newydd yn y flwyddyn gyntaf, dim ond ychydig wythnosau wedi dechrau’r cwrs, oedd wedi ysgrifennu, ffilmio a chynhyrchu’r ffilm fuddugol. Yn ogystal â lledaenu’r neges o beidio ag yfed a gyrru i bobl ifanc, mae arian y wobr yn dderbyniol dros ben hefyd a bydd yn mynd i brynu camera newydd ar gyfer y cwrs”.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
"Efo gŵyl y Nadolig bron yma mae hwn yn gyngor amserol iawn i bobl ifanc ei gofio bod hyd yn oed tipyn bach o alcohol yn amharu ar y gallu i yrru. Y dewis gorau yw peidio ag yfed o gwbl os yw’n debygol o gwbl y byddwch yn gyrru.”
Mae stori’r fideo yn dechrau efo model, efo’r fyfyrwraig Danielle Fisher, 17 oed, yn chwarae’r rhan, yn chwythu sws at y camera tra maen nhw’n tynnu lluniau ohono. Mae’n dangos y fodel yn paratoi i wisgo gwahanol wisgoedd. Wedyn maen nhw’n ei dangos hi yn yfed gwydryn o win yn hwyl y parti efo’i ffrindiau ac yn meddwi’n eithaf drwg. Wedyn mae’r sgrin yn mynd yn ddu, ac mae sŵn damwain car.
Wedyn mae’r du yn cilio i ddangos y fodel yn gwenu ac mae hynny wedyn yn cilio i ddangos yr un llun ar boster ar bolyn lamp sy’n cyhoeddi ei bod hi wedi marw. Mae pobl ifanc yn gosod blodau wrth y poster. Yna maen nhw i’w gweld yn mynd eu ffyrdd eu hunain ac yn sydyn rydym yn gweld y poster coffa o agos, a dyna’r olygfa olaf cyn mynd yn ddu eto.
Dyma’r tîm a gynhyrchodd y fideo byr;- Alex Bromilow 18, Rhiannon Jones 18, Danielle Fisher 17, Jay Hankin 19, Ryan Parry 17 a Michael Miller 16.
Am unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Tony Pugh ar 0798 5066 791