Mae caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau’n weithgaredd gwerth uchel yn y Cyngor sy’n cael effaith fawr ar ei berfformiad a llwyddiant. Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gwario rhyw £80 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau.
Anelwn at wella’r broses gaffael er mwyn cael y gorau o’r contractau sydd gennym a gostwng y costau gweinyddol o brynu.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd caffaeliad wrth gyflawni ein nodau a bod cafael nwyddau, gwaith a gwasanaethau o bwysigrwydd strategol am y rhesymau canlynol:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio ymagwedd ddatganoledig at gaffael gyda swyddogion sy’n prynu nwyddau a gwasanaethau ar sail gorfforedig ond a leolir o fewn adrannau hefyd.
Mae rhwydwaith o swyddogion yn cael ei gefnogi gan Swyddog Caffael canolog yn yr Adran Cyllid a Pherfformiad. Mae’r swyddog hwn yn cyd-drefnu gweithgareddau caffael, rhoi cyngor a chyfarwyddyd a sicrhau bod egwyddorion y Strategaeth Caffaeliad yn cael eu hwyluso a’u cyflawni.
Mae’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) yn diffinio Rheoliadau Ariannol fel:-
“…Cod ysgrifenedig o weithdrefnau a gymeradwyir gan y Cyngor, a’u bwriad yw darparu fframwaith ar gyfer rheolaeth ariannol gywir yr Awdurdod. Fel rheol mae rheoliadau ariannol yn gosod y rheolau ynghylch cyfrifyddiaeth, gweithdrefnau gweinyddol ac archwilio a systemau cyllido.”
Mae Rheoliadau Ariannol yn rheolaeth bwysig wrth asesu risgiau ariannol a llywodraethol. Mae’r Rheoliad Ariannol 10 yn ymwneud â chaffaeliad (prynu a chontractau).
Mae’r Rheoliadau Ariannol yn berthnasol i’r holl staff a gyflogir gan y Cyngor p’un ai os oes ganddynt gontract parhaol neu gontract dros dro, ac mae hefyd yn berthnasol i staff a gyflogir gan asiantaethau.
Mae Rheoliadau Ariannol yng nghynnwys y Cyfansoddiad sef rhan 4 tudalennau 47 - 120.
Os hoffech gysylltu â’r Uned Caffaeliad, mae yna fanylion cyswllt isod:
Ffacs: 01978 292763
E-bost: procurement@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Caffaeliad
Adran Cyllid a Pherfformiad
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR