Cynllun Lleoli Oedolion / Angen Gofalwyr Rhannu Bywydau

Oes gennych chi amser a modd i gynnig cymorth?

Beth yw'r Cynllun Lleoli Oedolion?

Mae Cynllun Lleoli Oedolion Wrecsam yn wasanaeth cofrestredig yn yr Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Amcan y gwasanaeth yw darparu egwyl fer mewn "ail gartref" drwy wahodd rhywun i rannu a chymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Bydd yr unigolyn yn 18 oed ac efallai ag anghenion anabledd dysgu, iechyd meddwl neu amhariad corfforol, niwrolegol neu synhwyraidd neu rywun sy'n hŷn ac yn fregus yn gorfforol.

Pwy sy'n gysylltiedig?

Fel Gofalwr Lleoliad Oedolion byddwch yn gwahodd rhywun i rannu a chymryd rhan eich bywyd teuluol bob dydd.  Drwy wneud hyn byddwch yn darparu gwasanaeth "ail gartref" a fydd yn galluogi unigolyn i fod yn rhan o'ch bywyd teuluol a chysylltu yn y rhwydwaith cymdeithasol presennol y byddwch chwithau fel teulu yn eu mwynhau.

Drwy ddarparu Egwyl Fer Lleoliad Oedolion byddwch hefyd yn gynnig y gefnogaeth sydd wir ei hangen i ofalwr sy'n aelod o'r teulu i'w galluogi i barhau i ofalu am mor hir â phosibl.

Bydd hyd yr arhosiad y Lleoliad Oedolion yn cael ei drafod rhwng gofalwr y Lleoliad Oedolion, yr unigolyn a'u teulu a bydd yn seiliedig ar ganlyniad yr asesiad angen.

Bydd y taliad ar sail ffioedd lefelau Lleoliad Oedolion.

Nid yw profiad blaenorol yn hanfodol ond mae'n rhaid i chi fod yn gallu dangos eich ymrwymiad i gefnogi pobl i fwyhau eu hannibyniaeth a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am mor hir â phosibl.  Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud hyn.

Byddwch yn gweithio gydag oedolion bregus a chwblheir gwiriad manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ofalwr Lleoliad Oedolion ac am wybod mwy, ffoniwch y Cydlynydd/wyr Lleoliad Oedolion am drafodaeth anffurfiol.

Rhif ffôn: 01978 298401

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych..

yn ôl i'r brig