Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2010/11

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol ar Wasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam i Fwrdd Gweithredol y Cyngor ar 5 Gorffennaf 2010 ar ran y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwyd ac yn disgrifio rhai o'r gwelliannau a chyflawniadau rydym wedi'u gwneud i wasanaethau yn 2010/11. Mae'n rhoi manylion am feysydd i wella rhagor arnynt yn 2011/12 hefyd.

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn hunanasesiad wedi ei seilio ar ddadansoddiad o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r arolygwyr allanol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn cadarnhau bod y Cyngor wedi gweithio gyda nhw mewn modd agored, cydweithiol ac adeiladol wrth gynhyrchu tystiolaeth i gefnogi gofynion yr Adroddiad Blynyddol. 

Gwasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam

Caiff Gwasanaethau Cymdeithasol eu trefnu neu eu darparu’n uniongyrchol trwy ddwy adran allweddol yn y Cyngor: yr Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion sy’n darparu gwasanaethau i oedolion 18 oed ac hŷn; a’r Adran Atal a Gofal Cymdeithasol, sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Gwariodd y Cyngor £48.8 miliwn ar Wasanaethau Cymdeithasol yn 2010/11.

Cewch fanylion am y gwasanaethau a ddarperir ar wefan y Cyngor, www.wrexham.gov.uk, neu drwy ffonio’r llinell Rhadffôn 0800 587 6708.

Cyflawniadau/Gwelliannau Allweddol yn 2010/11

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion

  • Cafwyd cynnydd o ran y boddhad yn ansawdd ac amrediad y gwasanaethau
  • Rydym ni wedi gweithredu’r cynllun gwella yn dilyn adroddiad cadarnhaol ar Ddiogelu Oedolion gan Arolygwyr allanol yn 2009/10
  • Rydym ni wedi sicrhau bod asesiadau’n fwy amserol a bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n brydlon
  • Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da wrth ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer pobl hŷn i’w cynorthwyo i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • Mae mwy o bobl wedi ei chael hi'n haws cael gafael ar wybodaeth am ein gwasanaethau

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

  • Rydym ni wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynnydd yn y nifer sy’n cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol i blant trwy sicrhau y gwneir penderfyniad gan reolwr ar fwy na 95% o’r holl gysylltiadau cyn pen 1 diwrnod gwaith
  • Mae gweithiwr cymdeithasol cymwysedig wedi ei ddynodi i 95% o holl achosion cyfredol y gwasanaethau cymdeithasol i blant
  • Rydym ni wedi rhoi’r Gwasanaeth Integredig i Gefnogi Teuluoedd ar waith yn awr yn sgîl bod yn un o’r tri awdurdod a oedd yn arloesi yn y maes hwn
  • Rydym ni wedi ymateb yn gadarnhaol i gynnydd sylweddol yn nifer y plant a gyfeiriwyd i’r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant
  • Mae’r gwariant wedi ei reoli’n dda, er gwaethaf y cynnydd yn y galw am wasanaethau cymdeithasol

Rhai o’r prif flaenoriaethau i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2011/12

  • Datblygu cynllun strategol 5 mlynedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion
  • Sicrhau bod plant, oedolion a gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y broses o adolygu ansawdd / perfformiad y gwasanaeth a siapio gwasanaethau
  • Parhau i ddatblygu gwasanaethau sy’n cynorthwyo pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag y bo modd, yn cynnwys Cymorth dan gyfarwyddyd y Dinesydd a gwasanaethau Gofal Canolraddol / Ailalluogi
  • Sicrhau bod plant yn derbyn asesiad amserol, o ansawdd uchel, a bod eu cynlluniau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd – yn cynnwys plant ag anableddau
  • Canolbwyntio ar ailgartrefu plant sy’n derbyn gofal yn ardal Wrecsam
  • Adolygu a chyfoethogi’r gwasanaethau pontio wrth fynd o wasanaethau i blant i wasanaethau i oedolion
  • Diweddaru’r trefniadau ar gyfer rheoli’r gwasanaethau anabledd dysgu a iechyd meddwl mewn modd integredig
  • Parhau i fwrw ymlaen â’r agenda gydweithredol â phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol, yn enwedig o ran comisiynu

Rydym yn croesawu atborth a sylwadau ar gynnwys yr adroddiad hwn gan ein bod yn awyddus i gyflwyno darlun o wasanaethau cymdeithasol yn Wrecsam sy’n gyfarwydd.

Rhadffon: 0800 587 6708
Ebost: socialservices@wrexham.gov.uk

 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2010/11

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2010/11 - Fersiwn PDF 582Kb

Adroddiadau Blaenorol

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2009/10 - Fersiwn PDF 876Kb

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2008/09 - Fersiwn PDF 626Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig