Y Cyd-destun Cenedlaethol a Lleol

CYPFP LogoY Cyd-destun Cenedlaethol

Lansiwyd Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2008, a dyma’r tro cyntaf i ganllawiau penodol ar Awtistiaeth a Syndrom Asperger gael eu hamlinellu ar gyfer asiantaethau lleol. Diben y Cynllun Gweithredu Strategol oedd pennu cyfeiriad teithio clir i ddatblygu gwasanaethau yng Nghymru trwy sicrhau cymryd camau penodol a mesuradwy ac, ar sail tystiolaeth o nifer achosion ac angen, gan gomisiynu gwasanaethau rhwng asiantaethau yn lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol fel y bo’n briodol. Bwriad y Cynllun Gweithredu hefyd yw ehangu dealltwriaeth o ASD a nifer yr achosion yng Nghymru.

Un o’r camau allweddol yn y Cynllun Gweithredu Strategol yw:

Y dylai Partneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc a Phartneriaethau Strategol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Ffyniant Lleol gynorthwyo sefydlu grŵp cydgysylltu ASD ymhob cylch lleol. Dylai’r grŵp hwn fod yn amlasiantaethol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ac ysbrydoli a chefnogi agweddau a gytunwyd arnynt rhwng asiantaethau at gynllunio gwasanaethau’n strategol a’u comisiynu ar gyfer pobl gydag ASD.

Mae’r cynllun gweithredu strategol yn cyflwyno sut mae gwasanaethau ar gyfer pobl gydag Awtistiaeth yn cael eu cyflenwi yng Nghymru, ac mae’n cynnwys camau penodol ar anghenion oedolion gydag Awtistiaeth.

Cyd-destun Lleol

Sefydlwyd Grŵp Gwaith a Gorffen ASD yn Wrecsam er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cydgysylltu grŵp amlasiantaethol o weithwyr proffesiynol o holl asiantaethau perthnasol i arwain datblygu gwasanaethau ASD yn Wrecsam.
  • Cynghori a hysbysu Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc trwy’r Grŵp Cydgysylltu Strategol Iach a Bywiog (SCoG) ar ddatblygu Fframwaith Strategol ar gyfer ASD yn Wrecsam a datblygiad a chynnydd gwasanaethau ASD.

Bydd meysydd i’w datblygu’n cynnwys:

  1. Hyfforddiant
  2. Cynyddu ymwybyddiaeth
  3. Trawsnewid
  4. Cefnogaeth (rhieni; teuluoedd; gweithwyr proffesiynol)
  5. Adnabod ac Asesu
  6. Cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau
  7. Archwilio darpariaeth / bylchau
  8. Adnoddau (presennol / y dyfodol)
  9. Cysylltiadau â grwpiau / strategaethau eraill
  10. Safonau ansawdd a NSF
  11. Comisiynu ar y cyd
  12. Cyllid
  13. Datblygu llwybrau gofal amlasiantaethol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn croesawu’r Cynllun Gweithredu Strategol ac mae wedi datblygu Fframwaith Strategol Wrecsam ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) yn ddiweddar sy’n anelu at ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion gydag ASD a’u teuluoedd trwy ddwyn gweithwyr proffesiynol Iechyd, Addysg, Tai, Cyfiawnder Ieuenctid, Gyrfa Cymru, Gofal Cymdeithasol a’r Sector Gwirfoddol ynghyd, ar y cyd ag Awtistiaeth Cymru a’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol.

Ein nod yw datblygu ymhellach yr arferion da ym maes Awtistiaeth sy’n bodoli eisoes yn Wrecsam ar draws a rhwng asiantaethau a thynnu gwybodaeth a medrusrwydd lleol ynghyd wrth ddatblygu agwedd ddi-dor, ddiwnïad a chydgysylltiedig at gyflenwi gwasanaethau i blant a phobl ifanc gydag ASD. Felly, fel rhan o’r Fframwaith Strategol lluniwyd cynllun datblygu tair blynedd, yn tynnu ar arferion gorau cenedlaethol a lleol ac yn cyflwyno’r camau gweithredu yn ôl blaenoriaeth ar gyfer datblygu a gwella gwasanaeth amlasiantaethol yn Wrecsam.

Amcanion Fframwaith Strategol Wrecsam ar gyfer ASD:

  • Rhoi hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ym myd addysg, gwasanaethau iechyd a lleoliadau cymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth o broblemau / anghenion plant a phobl ifanc gydag ASD a’u teuluoedd
  • Cynllunio ar gyfer adnabod, asesu, cael diagnosis a mynediad at ymyriadau cynnar ar gyfer plant a phobl ifanc Wrecsam gydag ASD
  • Cydgysylltu a hyrwyddo strategaethau ymyriad cynnar wrth gynllunio gwasanaethau a datblygu llwybrau gofal i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu’n gynnar
  • Deall maint ac amrywiaeth yr angen yn fanwl mewn cysylltiad ag ASD yn Wrecsam fel ag i gynllunio a tharged gwasanaethau’n well lle bo gofyn
  • Gweithredu cynllun datblygu 3 blynedd ar ASD yn Wrecsam sy’n unol â Chynllun Gweithredu Strategol Cymru Gyfan ac sy’n tynnu ar arferion gorau cenedlaethol a lleol ac sy’n cyflwyno’r camau gweithredu ar gyfer datblygu a gwella gwasanaeth amlasiantaethol yn ôl blaenoriaeth
  • Nodi amrywiaeth y cyfleoedd hyfforddi ASD sydd eu hangen i ddarparu gwell gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion gydag ASD a’u teuluoedd.

Fframwaith Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm awtistig (ASD) yn Wrecsam

Gwnaed ymchwil gan grŵp gorchwyl a gorffen, ar y cyd â rhieni a gweithwyr proffesiynol gyda phrofiad a gwybodaeth am ASD. At ei gilydd, teimlwyd nad oedd gwybodaeth ar gael yn rhwydd i rieni a bod hyfforddiant yn bwysig iawn i bawb sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion gydag ASD, yn arbennig gweithwyr cynnal. Dywed rhai rhieni eu bod wedi cael profiad o ddiffyg dealltwriaeth a gwybodaeth am ASD yn gyffredinol a’u bod yn teimlo’n gryf fod angen cynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned ehangach a gwasanaethau y daw unigolion i gysylltiad â hwy’n rheolaidd. Mae’r canfyddiadau hyn yn adleisio astudiaethau cenedlaethol sydd hefyd yn awgrymu na all bywydau plant ac oedolion gydag ASD ond gwella os oes gan gymdeithas well dealltwriaeth o’u cyflwr. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ASD yw un o’r elfennau allweddol wrth sicrhau bod anghenion pob unigolyn yn cael eu hadnabod a’u hasesu’n llawn.

Ychwanegwyd y wybodaeth hon at y cynllun datblygu yn Wrecsam ac mae’r camau canlynol yn dangos rhai o’r gweithrediadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd:

  • Sefydlwyd trefniadau i gynyddu ymwybyddiaeth o ASD, cynlluniwyd digwyddiadau lleol cynyddu ymwybyddiaeth ac mae ymgyrchoedd hysbysebu ar y gweill.
  • Nodi bylchau mewn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol, staff cymorth / gofal, plant, pobl ifanc, unigolion gydag ASD a rhieni, yn arwain at strategaeth hyfforddi.
  • Datblygu cyfeiriadur gwasanaethau ar gyfer cefnogaeth a gwybodaeth ASD.
  • Lansio gwefan wybodaeth ASD Wrecsam yn ystod digwyddiad cynyddu ymwybyddiaeth ASD ar 1af Hydref 2009.
  • Mae cynllunio ar y gweill i gynnal diwrnod addysgiadol difyr ASD i’r teulu.

yn ôl i'r brig