Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn gynllun cenedlaethol sy’n rhoi cymorth parcio i bobl ag anawsterau cerdded sy’n teithio un ai fel gyrrwyr neu deithwyr.
Mae’r cynllun yn berthnasol i bobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall, a phobl ag anableddau difrifol i’w breichiau.
Mae’n caniatáu i ddeilyddion bathodyn barcio’n agos at eu cyrchfan, ond mae’r consesiynau gwladol yn berthnasol i barcio ar y stryd yn unig.
Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun Bathodyn Glas ar wefan yr Adran Drafnidiaeth (cyswllt allanol).