Beth fydd yn digwydd i fy nghais?

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am wneud cais am Fathodyn Glas a beth fydd yn digwydd nesaf.

Sut i wneud cais am Fathodyn Glas


Gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein

Cam 1

Darllenwch y nodiadau canllaw i wirio a oes gennych chi’r hawl i gael Bathodyn Glas.

Cam 2

Gwnewch yn siwr fod gennych chi:

Cam 3

Llenwi’r ffurflen ar-lein

Beth sy’n digwydd nesaf:

  • Bydd eich cais yn cael ei wirio a’i ddilysu gan Gyngor Wrecsam
  • Efallai y gwnawn ni gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth am eich cais
  • Os nad oes gennych chi hawl awtomatig i gael Bathodyn Glas, byddwn yn gofyn i’ch meddyg gadarnhau’r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi
  • Os yw eich cais yn llwyddiannus fe wnawn ni gysylltu â chi i adael i chi wybod pryd fydd eich Bathodyn Glas ar gael i chi ei gasglu. Bydd angen i chi ddod i ganolfan Galw Wrecsam i gasglu eich bathodyn a dychwelyd eich hen fathodyn
  • Os yw eich cais yn aflwyddiannus fe wnawn ni anfon llythyr atoch chi yn esbonio’r rhesymau pam na chafodd eich cais ei gymeradwyo.

Gwneud cais am Fathodyn Glas yn Galw Wrecsam

Cewch wneud cais am Fathodyn Glas trwy ymweld â chanolfan Galw Wrecsam yn 16 Stryt yr Arglwydd.

Mae Galw Wrecsam ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5.30pm.

Bydd angen i chi ddod â’r isod gyda chi:

Manylion am y dystiolaeth sy’n dderbyniol.

Bydd ein swyddogion yn llenwi’r ffurflen gais ar eich rhan chi.

Os nad oes gennych chi hawl awtomatig i gael Bathodyn Glas, byddwn yn gofyn i’ch meddyg gadarnhau’r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi.

Os yw eich cais yn llwyddiannus fe wnawn ni archebu eich bathodyn ac fe gewch chi ei gasglu ymhen 7 diwrnod gwaith. Bydd angen i chi ddod i ganolfan Galw Wrecsam i gasglu eich bathodyn a dychwelyd eich hen fathodyn.

Os yw eich cais yn aflwyddiannus fe wnawn ni esbonio’r rhesymau pam na chafodd eich cais ei gymeradwyo.

yn ôl i'r brig