Croeso i Ffurflen Gais ar lein y Cynllun Bathodyn Glas. Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am Fathodyn Glas.
Cwblhewch holl adrannau priodol y ffurflen, gan gychwyn gyda Rhan A.
Bydd eich ffurflen gais ar lein yn cael ei derbyn a'i phrosesu gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ewch i 'beth sy'n digwydd i'm cais?' am wybodaeth ar sut caiff eich cais ei brosesu.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gyflwyno dau ffotograff diweddar, maint llun pasport, gyda llofnod yr ymgeisydd ar y cefn. PEIDIWCH AG ANFON Y FFOTOGRAFFAU NES GOFYNNIR I CHI WNEUD HYNNY.
Gofynnir i chi ymweld â swyddfa'r Gwasanaethau Cymdeithasol i nôl eich Bathodyn Glas a chyflwyno'r ddau ffotograff, ynghyd â llofnod ac unrhyw ddogfennau ychwanegol a fydd eu hangen fel rhan o'r broses o wneud cais.
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda'r ffurflen hon, ffoniwch yr adran Gofal Cymdeithasol ar 01978 292066.
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Diogelu Gwybodaeth
Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir gennych yn cael ei storio a'i defnyddio dan delerau Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd
Mae'r mannau lle mae * yn orfodol, a rhaid eu cwblhau.
Gwybodaeth gyswllt:
Adran Gofal Cymdeithasol
Llawr Cyntaf
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8ZE
Ffôn: 01978 292066
E-bost: bluebadge@wrexham.gov.uk







