Mae unrhyw un dros ddwy oed â hawl awtomatig i gael Bathodyn Glas os ydynt:
- wedi eu cofrestru fel person dall
- yn derbyn ategiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel
- yn derbyn cydran symudedd cyfradd uwch y Lwfans Byw i’r Anabl
- wedi derbyn budd-dal lwmp swm gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (lefelau tariff 1 i 8) ac wedi eu hardystio fel bod ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu anhawster sylweddol wrth gerdded.
Os nad oes gennych chi hawl awtomatig, mae’n bosibl bod gennych chi’r hawl i Fathodyn Glas os ydych chi dros ddwy oed, a’n bod ni’n medru cadarnhau:
- bod gennych chi anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu na fedrwch chi gerdded, neu sy’n gwneud cerdded yn anodd iawn
- eich bod chi’n gyrru car yn rheolaidd a bod gennych chi anabledd difrifol yn y ddwy fraich, sy’n ei gwneud yn anodd iawn neu’n amhosbl gweithredu peiriannau tocyn parcio.
Rheolau arbennig ar gyfer plant o dan dair oed
Os ydych chi’n rhiant plentyn sy’n iau na thair oed, fe gewch chi wneud cais am Fathodyn Glas. Mae’n rhaid i’ch plentyn fod â chyflwr meddygol penodol sy’n golygu un o’r isod:
- bod rhaid iddo/iddi fod ag offer meddygol swmpus wrth law trwy’r amser sy’n anodd iawn i’w gario o gwmpas
- bod angen iddo/iddi fod yn agos at gerbyd trwy’r amser er mwyn cael triniaeth frys ar gyfer cyflwr pan fo angen.
A oes rhaid talu am Fathodyn Glas?
Mae unigolion yn cael Bathodyn Glas am ddim ond codir tâl o £10.00 ar sefydliadau.
Os ydych chi’n credu bod eich Bathodyn chi wedi ei ddwyn dylech hysbysu’r Heddlu a gofyn am Gyfeirif Trosedd. Os oes gennych chi Gyfeirif Trosedd ni chodir tâl arnoch chi am fathodyn newydd.
Codir tâl o £10.00 am adnewyddu bathodynnau coll neu fathodynnau wedi eu dwyn ond heb Gyfeirif Trosedd.
yn ôl i'r brig