Gwybodaeth a Chefnogaeth Leol

Mynegai Gofalwyr > Gwybodaeth, Cefnogaeth a Chyngor > Gwybodaeth a Chefnogaeth Leol

Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion Wrecsam yn darparu cyllid ar gyfer ystod o wasanaethau i Ofalwyr, ac fe restrir rhai ohonynt isod:

Galw Wrecsam i Oedolion Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Cymdeithasol)

Mae'r Tîm Asesiad Cyswllt ar gael i dderbyn eich galwad rhwng 8.30am a 5.30pm Dydd Llun i ddydd Gwener. Ffôn: 01978 292066

Mewn sefyllfa argyfwng na ellir disgwyl tan y diwrnod gwaith nesaf, gellir cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 0845 0533 116


Y gwasanaeth canolog i Ofalwyr yw Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam (safle allanol). “Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam yn darparu Gwybodaeth, Cymorth a Chefnogaeth i Ofalwyr yn byw yng Nghyngor Bwrdeistref Wrecsam.”

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Gofalwyr Ifanc yn Wrecsam

Gweithredu dros Blant

Fe ariennir Prosiect Gofalwyr Ifanc Gweithredu Dros Blant Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam.

Amcanion y Prosiect Gofalwyr Ifanc yw nodi, darparu cefnogaeth, cyngor a gweithgareddau i ofalwyr ifanc yn y Fwrdeistref Sirol.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phobl ifanc yn y Fwrdeistref Sirol y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan fyw gyda rhywun sydd â salwch, anabledd, salwch meddyliol/problem iechyd meddwl, yn oedrannus neu’n fethedig, neu â phroblem camddefnyddio sylweddau. Felly bydd gan y bobl ifanc hyn gyfrifoldebau gofalu atodol yn eu teuluoedd.

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, cysylltwch â Chydlynydd y Prosiect ar 01978 264040.

Gofalwyr Ifanc Gweithredu Dros Blant Wrecsam
11 Sontley Road
Wrecsam
LL13 7EN

Ffôn: 01978 264040
E-bost: longfields@actionforchildren.org.uk

yn ôl i'r brig