Gwasanaethau Cymdeithasol

Gweithdrefnau Cwynion Plant

Ar adegau, mae’n anodd i bobl wybod eich bod yn poeni neu’n anhapus am rywbeth os nad ydych yn dweud wrthynt.

Gall siarad â rhywun ddatrys eich problem yn aml a stopio pryder bychan rhag dod yn un mawr. OND os credwch na allwch siarad â rhywun yn agos i chi neu os nad yw siarad wedi helpu ac mae eich problem yn gwaethygu, dyma beth i’w wneud.

Cysylltwch â’r Swyddog Sylwadau a Chwynion ar 01978 292968.

Cam Un – Penderfyniad Lleol

Bydd y Swyddog Cwynion yn trefnu i rywun ddod i siarad â chi (y rheolwr tîm fel arfer) yn breifat a fydd yn ceisio datrys y broblem. Gallwch siarad â’r unigolyn hwn ar eich pen eich hun neu gyda ffrind. Gall gysylltu â Hawliau Plant ar 01978 311869 neu gallwn drefnu i rywun o Hawliau Plant i ymweld â chi. Mae’r rhain yn bobl arbennig, nad ydynt yn gweithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n bosibl y gallant eich helpu.

Beth nesaf?

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl i ni geisio datrys y broblem – yna

Cam Dau – Ymchwiliad Ffurfiol

Bydd y Swyddog Cwynion yn trefnu i’ch cwyn gael ei harchwilio gan swyddog ymchwilio annibynnol. Nid yw’r unigolyn hwn yn cael ei g/chyflogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond mae’n gymwys i edrych ar eich cwyn. Er mwyn sicrhau bod hyn yn deg, mae unigolyn annibynnol yn cael ei b/phenodi hefyd. Ni fydd yn cael ei g/chyflogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ond gall wneud yn siwr bod eich cwyn yn cael ei thrin yn iawn.

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl hyn ac os teimlwch nad yw’ch problem wedi ei datrys - yna

Cam Tri – Panel Arolygu

Dyma lle mae criw o bobl, y Panel Arolygu, yn cyfarfod i siarad â chi a phobl eraill sy’n ceisio datrys eich problem. Bydd y swyddog ymchwilio annibynnol yma ynghyd ag unigolyn annibynnol arall. Ar ôl siarad â phawb a gwrando’n ofalus iawn ar yr hyn sy’n cael ei ddweud, mae’r Panel yn penderfynu ar y ffordd orau o ddatrys eich cwyn.

yn ôl i'r brig