Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) a’i amcan yw darparu gwasanaeth cymdeithasol brys o safon uchel mewn ymateb i achosion y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth i bobl (boed yn blant neu’n oedolion) sydd mewn argyfwng ac sy’n byw yn Sir Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Dealla’r tîm y gallech fod mewn sefyllfa lle y teimlwch yn bryderus a’i fod yn argyfwng. Gwnawn bob amser wrando’n ofalus mewn modd sensitif ond wnawn ni ond cymryd camau brys e.e. ymweld â chi – os teimlwn eich bod chi, neu’r unigolyn yr ydych yn ffonio ar eu rhan mewn perygl mawr.
Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych, Wrecsam neu Sir y Fflint sy’n bryderus am eu hunain neu rywun arall y tybiant y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol eu cynorthwyo. Gallwn helpu plant, pobl ifanc, teuluoedd, pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl, yr henoed, pobl sydd ag anableddau a gofalwyr.
Gall gweithiwr cymdeithasol o’r Tîm Dyletswydd Argyfwng gwblhau asesiad o’ch anghenion. Gwneir y cam cyntaf hwn ar y ffôn. Gwnawn roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i sicrhau bod y sefyllfa’n ddiogel tan y diwrnod gwaith nesaf pan fydd y gwasanaethau dydd arferol ar gael. Cydweithiwn yn agos ag asiantaethau eraill all gynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfwng megis yr adrannau tai, yr heddlu, meddygon teulu ac ysbytai.
O dro i dro byddwn yn ymweld â chi gartref. Gallai hyn ddigwydd petai:
Os yw pob aelod o’r Tîm yn brysur efallai y bydd oedi, ond rhoddir gwybod i chi am hyn bob amser tra byddwch chi ar y ffôn ac efallai y bydd yn rhaid i ni eich ffonio yn ôl.
Nid yw’r Gwasanaeth Dyletswydd Argyfwng ar gael ym mhob un sefyllfa ac mae’n rhaid i’r tîm flaenoriaethu pwy mae’n ei gynorthwyo. Os teimlwn nad oes ange n ymweliad, gallwn roi manylion cyswllt gwasanaeth arall I chi, neu’ch atgyfeirio at ein gwasanaethau dydd.
Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gael:
Dydd Llun – Dydd Iau 5pm i 8.30am
Penwythnosau o 4.30pm ddydd Gwener hyd 8.30am dydd Llun (drwy’r dydd, dydd Sadwrn a dydd Sul) a Gwyliau’r Banc.
Ffôn: 0845 0533 116 (cyfradd leol)