

Mae’n wasanaeth newydd sy’n anelu at wneud gwahaniaeth i fywydau’r plant a theuluoedd mwyaf diamddiffyn sy’n byw yn Wrecsam.
Bydd yn tynnu gweithwyr proffesiynol o amrywiol gefndiroedd at ei gilydd i roi cymorth dwys, yn enwedig rhoi cefnogaeth rieiniol i oedolion a theuluoedd.
Nod y math hwn o wasanaeth yw peri newid yn nulliau byw teuluoedd i wella lles plant a chadw teuluoedd gyda’i gilydd.
Mae Wrecsam wedi derbyn £1.8 miliwn am y tair blynedd nesaf i dalu am y prosiect newydd hwn. Mae’n un o ddim ond tri Awdurdod yng Nghymru sy’n arloesi’r agwedd amlasiantaethol hon at deuluoedd “cyfan” lle mae camddefnyddio alcohol a sylweddau’n ffactor risg allweddol.
Dros y tair blynedd nesaf bydd Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Wrecsam yn gweithio’n drylwyr gyda holl aelodau’r teulu, lle mae gan un o’r rhieni neu’r ddau ohonynt broblemau camddefnyddio sylweddau.
Bydd gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn cael ei benodi i ddechrau arferion gwaith cymdeithasol newydd.
Caiff y ddarpariaeth ei chyflwyno’n drylwyr, hyd at 80 awr dros 4 wythnos, gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau i sicrhau cysylltiad y teulu.
Mae’r tîm yn rhan o Wasanaeth Plant a Phobl Ifanc y Cyngor ac o fewn yr Adran Atal a Chynhwysiad.Trwy dynnu amrywiaeth o staff medrus ynghyd i gynorthwyo cefnogi teuluoedd, bydd tîm arbenigol, fel yr un sy’n cael ei sefydlu yn Wrecsam, yn gallu cynorthwyo goresgyn yr anawsterau sy’n wynebu teuluoedd.
Mae llawer o blant sy’n ei gorffen hi mewn gofal yn gwneud hynny oherwydd esgeulustod neu gam-drin, yn sgil dibyniaeth eu rhieni ar alcohol neu gyffuriau.
Mae’n bwysig bod rhieni’n cael cymorth dwys i ddod dros eu caethiwed i naill ai gyffuriau neu alcohol a’u plant yn cael eu hamddiffyn.
Bydd y tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ceisio sefydlogi bywyd cartref i sicrhau bod plant a rhieni’n gallu aros gyda’i gilydd, gan osgoi gofal maeth neu’r dewis arall o roi’r plentyn mewn cartref gofal.
Os yw hyn wedi digwydd eisoes gall y tîm weithio gyda’r teulu i ddod â’r teulu’n ôl at ei gilydd trwy ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant. Fel arall, mae ymyriad yn golygu bod modd cael lleoliadau addas yn gynharach i roi’r cyfle gorau bosibl i blant.
Mae’n wahanol oherwydd nad yw’r tîm yn gyfrifol am achosion teuluoedd unigol, ond mae’n gallu comisiynu gwahanol wasanaethau i wneud newidiadau sylweddol. O ganlyniad nid yw’n drwm dan waith papur statudol fel timau gwasanaethau cymdeithasol cyffredin. Mae’r canolbwynt ar anghenion y teulu dros gyfnod byr a dwys. Mae’r oriau’n hyblyg ar gyfer aelodau’r teulu.
Bydd y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn effeithio ar un o’r tair Blaenoriaeth Gorfforaethol:
Mae hyn oherwydd y gall addysg llawer o’r plant sy’n dod dan IFSS gael ei beryglu, oherwydd amgylchiadau teuluol, a dod yn bobl ifanc sy’n cael eu galw’n NEET – pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Ei fwriad yw cryfhau’r uned deuluol a chefnogi’r bobl ifanc a chwalu’r pethau sy’n rhwystro cynhwysiad cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at addysg a hyfforddiant.
Bydd hefyd yn effeithio ar y meysydd gwella canlynol:
Am y tro cyntaf bydd cynllun teulu cyfan yn bodoli i ddelio â maetheg a materion dulliau byw egnïol.
Yn aml mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau’n cydfodoli gyda theuluoedd anghenus iawn, o ran yr oedolion hyn a’u plant.
Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd - fformat PDF 3.5Mb ![]()
Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd - Canllaw'r Ymarferydd - fformat PDF 2.6Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd
Polisi cydweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw'r model GICD er mwyn ymateb i'r pryderon nad yw'r gwasanaethau presennol yn bodloni anghenion rhai o'r plant a'r teuluoedd sydd â phroblemau cymhleth yn ddigonol. Bydd y Timoedd Integredig Cymorth i Deuluoedd (TICD) yn weithredol o wanwyn 2010 ymlaen.