Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn darparu gwasanaethau i oedolion, hynny yw pobl 18 oed a throsodd.
Y math o bobl rydym yn eu helpu fel arfer yw’r rheini sydd angen cefnogaeth i ddelio ag anawsterau yn eu bywydau bob dydd oherwydd nam corfforol neu synhwyraidd, anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl. Darparwn gefnogaeth hefyd i’r rheini sy’n gofalu am bobl â’r anableddau hyn.
Taliadau Uniongyrchol
Ffordd arall o gael cefnogaeth i’ch anghenion personol a chymdeithasol lle cewch y cymorth ariannol i sefydlu gwasanaethau eich hun.
Mae'r ddogfen yma ar gael i lawrlwytho yn y fformat isod:
Taliadau Uniongyrchol - Fersiwn PDF 870Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.