Wyt ti’n blentyn neu’n unigolyn ifanc yn ardal Wrecsam sy’n cael dy gam-drin naill ai adref neu gan rywun tu allan i dy gartref?
Oes yna rywun adref yn cael ei gam-drin gan rywun arall? Neu oes gennyt ffrind sydd angen help oherwydd ei bod ef neu hi’n cael ei g/cham-drin?
Gallet gael help trwy wneud unrhyw un o’r pethau canlynol:
Wyt ti’n ymwneud â gweithdrefnau diogelu plant eisoes? Os wyt, mae’r daflen hon yn egluro beth yw’r broses amddiffyn plant ac ymhle rwyt ti’n ffitio.Mae yna wefannau defnyddiol eraill y gallet fwrw golwg drostynt. Os wyt yn cael dy fwlio, gallai’r rhain fod o gymorth:
www.childline.org.uk (bullying information)
Os wyt yn poeni am rywbeth sy’n digwydd neu a allai ddigwydd i ti pan rwyt yn mynd ar y we, gallet edrych ar y rhain:
www.virtualglobaltaskforce.com
Mae llawer o gyngor defnyddiol ar gael i bobl ifanc ar www.wrecsamifanc.co.uk.
Mae’n anodd siarad am gamdriniaeth – ond os nad wyt yn sôn wrth rywun, ni fyddant yn gallu dy helpu i’w stopio.
Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?