Gellir ond amddiffyn plant rhag niwed yn effeithiol os yw’r gymuned i gyd, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, yn cymryd cyfrifoldeb am eu cadw’n ddiogel.
Os ydych yn gwybod neu’n amau bod plentyn yn cael ei niweidio neu mewn perygl o gael ei niweidio, dylech roi gwybod i’r tîm gwaith cymdeithasol lleol.
Mae'r daflen hon yn esbonio mwy am gam-drin plant a'r hyn y gallwch ei wneud i helpu i amddiffyn plan a phobl ifanc.
Amddiffyn plant
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Amddiffyn plant - Fersiwn PDF 112Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Mae gweithwyr cymdeithasol yn ceisio cadw plant gartref gyda’u teuluoedd lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Yng Nghymru a Lloegr, dim ond rhyw 5% o blant sy’n cael eu hamddiffyn dan weithdrefnau swyddogol sy’n cael eu symud o’u cartrefi. Mae’r gweddill yn cael eu cefnogi gartref ac yn cael eu hamddiffyn trwy ‘Gynllun Amddiffyn Plant’.
O bryd i’w gilydd bydd y sefyllfa mor anniogel nes bydd plant yn cael ei symud i fyw gyda theulu arall. Bydd yn cael ei symud at berthynas neu rywun arall y mae’n yn ei adnabod ac sy’n fodlon edrych ar ei ôl lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Dim ond os nad yw hyn yn bosibl y bydd yn symud i fyw at ofalwyr maeth sydd wedi’u hyfforddi a’u cymeradwyo i gwblhau’r rôl. Hyd yn oed ar ôl hynny, bydd y rhieni’n parhau i weld y plentyn oni bai bod y gweithiwr cymdeithasol o’r farn bod hyn yn rhy beryglus.
Gellwch ffonio’r Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd i drafod eich pryderon. Mae’n bosibl na fydd yn cymryd camau gweithredu ar unwaith ond yn cadw cofnod o’ch gwybodaeth fel y bydd yn gwybod bod gennych bryderon eisoes os bydd rhywun arall yn ffonio yn y dyfodol. Yn yr un modd, mae’n bosibl y bydd ganddo/i gofnod o alwadau ffôn blaenorol gan bobl eraill a fydd, ynghyd â’ch gwybodaeth chi, yn rhoi darlun o blentyn sy’n debygol o fod yn dioddef niwed.
Weithiau mae’n anodd iawn credu bod pobl yn gwneud pethau erchyll i blant. Mae hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dod ar draws sefyllfaoedd sy’n anodd eu credu. Mae llawer o oedolion sy’n cam-drin plant yn cael eu hoffi a’u parchu gan y bobl o’u cwmpas ac o ganlyniad mae pobl sy’n clywed eu bod wedi bod yn cam-drin plant yn teimlo eu bod wedi gwneud camgymeriad. Mewn sefyllfa fel hon, os byddwch yn cadw’n dawel byddwch yn amddiffyn y camdriniwr yn lle’r plentyn.
Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd (Dydd Llun – ddydd Gwener 8.30-5.30) 01978 292039
Tîm Dyletswydd Brys – nid yw hwn yn wasanaeth llawn y tu allan i oriau, ond gall ymateb i bryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant sy’n codi gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau’r banc 0845 0533 116
Yr Heddlu – os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl enbyd 01978 290211 neu 999.