Timau o weithwyr proffesiynol profiadol yn gweithio gyda phobl sy’n cael anawsterau gydag iechyd eu meddwl yw Timau Iechyd Meddwl Cymunedol Wrecsam (CMHT). Y tîm yw Seiciatryddion Ymgynghorol, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol a Therapyddion Galwedigaethol. Mae gennym dîm gweinyddol profiadol yn gefn i ni.
Mae CMHT yn annog agwedd gadarnhaol tuag at wella afiechyd meddwl difrifol, yn cynnig cyfle i chi roi sylw i’r materion all fod wedi cyfrannu at eich amgylchiadau presennol.
Yn dilyn asesiad o’ch anghenion byddwch yn cael Cydgysylltydd Gofal fydd yn brif gyswllt i chi. Byddwch chi a’ch Cydgysylltydd Gofal yn cytuno ar gynllun gofal sy’n manylu ar eich anghenion dynodedig a sut fyddant yn cael sylw. Fel arall, os byddwn yn teimlo y byddai eich anghenion yn cael eu helpu’n well trwy wasanaeth arall byddwn yn eich cyfeirio at y gwasanaeth hwnnw.
Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol Wrecsam yn gweithio’n agos hefyd gydag amrywiaeth mawr o asiantaethau eraill yn Wrecsam. Yn ddiweddarach fe all eich cynllun gofal gynnwys cysylltiad ag unrhyw un o’r gwasanaethau hyn, os byddwch chi neu eich Cydgysylltydd Gofal yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol. Bydd y gwasanaeth y cewch ei gynnig yn dibynnu ar eich anghenion unigol.
Bydd y cynllun gofal yn cael ei adolygu’n rheolaidd gennych chi, eich Cydgysylltydd Gofal a’ch Seiciatrydd Ymgynghorol er mwyn adolygu’ch gofal a hefyd i sicrhau bod y cynllun gofal yn ymateb i’ch anghenion. Cewch gynnig copi o’ch cynllun gofal os bydd yn cael ei adolygu. Bydd eich rhyddhau o’r CMHT yn cael ei drafod drwy gydol eich ymwneud â’r tîm, a byddwch yn rhan o holl benderfyniadau.
Mae cyfrifoldeb ar y tîm i hyfforddi gweithwyr proffesiynol a gallant ofyn bod myfyrwyr yn ymwneud â’ch gofal ar ryw gyfnod. Bydd angen i chi gydsynio â hyn ac mae gennych hawl i wrthod. Cofiwch drafod unrhyw bryderon gyda’ch Cydgysylltydd Gofal.
Y Dull Rhaglen Ofal (CPA) yw’r ambarél o ddeddfau sy’n cyfeirio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac mae’n sicrhau y byddwch yn derbyn gwasanaeth sy’n ymateb i’ch anghenion unigol.
Os oes gennych ofalwr, sy’n gallu cynnwys priod, partner, perthynas neu gyfaill, byddant hwy, ynddynt eu hunain, yn cael cynnig asesiad gofalwr ar wahân. Y gofalwr sy’n penderfynu cael yr asesiad hwn. Fe all canlyniad yr asesiad hwn roi cyfle i’r gofalwr gael mynediad at Hafal sy’n gallu cyfeirio eich gofalwr at wasanaethau cefnogol eraill.
Mae holl aelodau’r tîm yn parchu ac yn ystyriol o faterion cydgyfrinachedd. Ar adegau mae angen rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a, than amgylchiadau arbennig lle ystyriwn eich bod chi neu eraill mewn perygl difrifol, efallai y byddwn yn gorfod cymryd camau priodol. Byddwn yn gofyn i chi lofnodi dogfen gydgyfrinachedd a bydd hyn yn cael ei drafod eto gyda chi yn ystod yr asesiad.
Caiff gwybodaeth berthnasol i chi ei chadw ar ffurf nodiadau ac ar gyfrifiadur. Mae Deddf Gwarchod Data 1984 yn diogelu eich gwybodaeth ac mae gennych hawl statudol i gael gweld eich nodiadau.
Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Canolog Wrecsam
16-18 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BU
Ffôn: 01978 355783
Ffacs: 01978 312827
Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gwledig Wrecsam
16-18 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BY
Ffôn: 01978 366867
Ffacs: 01978 263825
Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol Canolog a Gwledig Wrecsam ar agor:
Dydd Llun i Ddydd Iau
9am-5pm
Dydd Gwener
9am-4.30pm
Heblaw Gwyliau Banc
Mae modd cysylltu â Swyddog ar Ddyletswydd sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau gwaith ar gyfer cyfeirio neu i gael cyngor ac ymgynghori.
Ar gyfer unrhyw argyfwng sydd angen ymateb brys, y meddyg teulu ddylai fod y cyswllt cyntaf. Yna gall y meddyg teulu benderfynu beth yw’r dull mwyaf priodol o weithredu. Gall hyn gynnwys cael gafael ar Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) os yw asesiad dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cael ei ystyried yn angenrheidiol.