Cefnogi Rhianta

Plant ydy ein dyfodol a rhieni/gofalwyr ydy’r bobl bwysicaf ym mywyd pob plentyn. Trwy gefnogi rhieni rydyn ni’n gobeithio rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Cefnogi rhianta ydy unrhyw beth sy’n helpu rhieni yn eu swydd bwysig o fagu eu plant. Gallai’r gefnogaeth hon fod yn wybodaeth am ddatblygiad plant neu wasanaethau lleol, cyngor ac arweiniad am wahanol agweddau rhianta, grwpiau trafod i rieni a grwpiau cefnogi rhieni, sesiynau i grwpiau rhieni am faterion penodol (fel cael plant i gysgu trwy’r nos neu lunio perthynas bositif â phobl ifanc yn eu harddegau), cyrsiau rhianta, gweithwyr cefnogi teuluoedd yn gweithio yng nghartrefi teuloedd a llawer rhagor. Mae gan Wrecsam Dîm Rhianta sy’n cydlynu’r cymorth a’r gefnogaeth yma i rieni ac mae’n gyfrifol am ddatblygu Strategaeth Rianta Wrecsam hefyd.

Mae llawer o fudiadau yn Wrecsam sy’n cynnig cefnogaeth i rieni gyda’u rôl rhianta. Mae rhai o’r sefydliadau hyn yn rhan o’r Awdurdod Lleol (y Cyngor), rhai yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Iechyd, rhai yn fudiadau gwirfoddol ac eraill yn fudiadau cymunedol.  Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am a chysylltau i’r gwasanaethau hyn i’ch helpu chi fel rhiant neu ofalwr. Mae gennym ni Gyfeiriadur Gwasanaethau i gefnogi rhianta a theuluoedd yn Wrecsam hefyd.

Cysylltau Allanol Defnyddiol

Gweler hefyd:

yn ôl i'r brig