Adran Gofal Cymdeithasol – Gwybodaeth am Reoli Perfformiad

Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol yn parhau i wella’r prosesau ymgynghori ac ymglymiad gyda dinasyddion, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr. Cefnogir y gwaith hwn gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a’u rhaglen ‘Getting Engaged’. Dechreuodd y rhaglen waith hon 12 mis yn ôl yn rhannol gan Gynghorau yn cydnabod y gallai defnyddwyr a gofalwyr eu gwasanaeth fod yn gryfach wrth iddynt gasglu tystiolaeth ar gyfer eu Hadroddiad Blynyddol cyntaf am Wasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn gwybodaeth grŵp cyfeirio arbenigol a gweithgor, cytunwyd ar y rhaglen waith.

Cytunwyd i:

  • Ddatblygu cronfa ddata arferion nodedig a chyfeiriadur ar-lein.
  • Datblygu safonau cymryd rhan.
  • Datblygu cyfres sylfaenol o gwestiynau arolwg
  • Chwilio am ffyrdd o gasglu gwybodaeth oddi wrth arferion blaengar.

Mae’r adran Gofal Cymdeithasol yn ystyried y datblygiadau hyn wrth iddynt ailysgrifennu eu Strategaeth Rhanddeiliaid ac Ymglymiad sydd i’w chyhoeddi ym mis Mawrth 2011. Prif ffocws y strategaeth newydd a’r cynllun gweithredu atodol yw gwneud gwell defnydd o’r wybodaeth a dderbyniwn gan bobl am y gwasanaethau maent yn eu dymuno neu eisoes yn eu derbyn a’u defnyddio i arwain sut mae gwasanaethau yn datblygu yn y dyfodol. Gellir gweld y strategaeth bresennol drwy ddewis y ddolen isod:

Rydym hefyd yn casglu atborth gan bobl sy’n derbyn gwasanaethau gofal cartref neu sy’n byw mewn cartrefi gofal er enghraifft. Defnyddir y wybodaeth hon i farnu pa mor dda mae darparwr y gwasanaethau drwy ei defnyddio ochr yn ochr â gwybodaeth mewn cwynion, gwybodaeth diogelu, adroddiadau gan Arolygaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Cymru (CSSIW) a’n gweithgareddau monitro ein hunain. Rydym yn ystyried atborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr neu deuluoedd yn bwysig iawn ac yn eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein i’r eithaf.

Ar lefel y gwasanaeth mae Penaethiaid y Gwasanaeth hefyd yn gwella sut y byddant yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth mewn atborth. Mae’r Tîm Amhariad Corfforol, Synhwyrol neu Niwrolegol yn arwain y ffordd yn y gwaith hwn drwy ystyried nid yn unig atborth mesuradwy ond hefyd y sylwadau a wna pobl mewn ffurflenni atborth. Mae sylwadau o’r fath yn rhoi data gwerthfawr a ddefnyddir i roi gwybod sut y dylid gwella’r gwasanaeth.

Er mwyn rhoi atborth i bobl am eu sylwadau a sut rydym yn eu defnyddio, rydym wedi llunio cylchlythyrau rheolaidd. Unwaith eto, croesewir sylwadau ar ddefnyddioldeb y cylchlythyrau hyn ac awgrymiadau i’w gwella.

Ymgysylltu ac ymgynghori gyda phobl, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr

Gofal Cymdeithasol Oedolion Strategaeth Gyfranogi a Chynnwys 2008–2011

Cylchlythyron Cwsmeriaid Ymgysylltu

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr Taflan Newyddion (Rhagfyr 2011) – Fersiwn PDF 130Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr Taflan Newyddion (Mehefin 2011) – Fersiwn PDF 136Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr Taflan Newyddion (Rhagfyr 2010) – Fersiwn PDF 133Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr (Mehefin 2010) – Fersiwn PDF 92Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Profiad y Gofalydd (Mehefin 2010) – Fersiwn PDF 110Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr (Rhagfyr 2009) – Fersiwn PDF 105Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr (Haf 2009) – Fersiwn PDF 132Kb

Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Taflen Newyddion Profiad y Gofalwr (Rhagfyr 2008) – Fersiwn PDF 282Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Adran Adroddiadau Blynyddol y Cynghorau

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol ar Wasanaethau Cymdeithasol yn Wrecsam i Fwrdd Gweithredol y Cyngor ar 5 Gorffennaf 2010 ar ran y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwyd ac yn disgrifio rhai o'r gwelliannau a chyflawniadau rydym wedi'u gwneud i wasanaethau yn 2010/11. Mae'n rhoi manylion am feysydd i wella rhagor arnynt yn 2011/12 hefyd.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.


Dogfennau a Gwybodaeth

Blaenoriaethau a Nodau Allweddol Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam


Cysylltiadau Defnyddiol

Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGC)
Cafodd AGGC (SSia) ei sefydlu i sbarduno gwella a hybu rhagoriaeth yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Gwefan y Cyngor Gofal – Y Codau Ymarfer a Hyder mewn Gofal
Côd Ymarfer Mae’r Codau Ymarfer yn cynnwys safonau proffesiynol y cytunwyd arnynt a fydd yn gymwys i bob cyflogwr gofal cymdeithasol ac i’r rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol.

yn ôl i'r brig