Mae’r Gwasanaeth Nam ar y Synhwyrau, Nam Corfforol, a Niwrolegol yn cynnwys dau dîm: Tîm PSNI a’r Tîm Therapi Galwedigaethol.
Mae’r Tîm PSNI yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adsefydlu i’r rheiny sydd â nam ar y golwg a gweithwyr cefnogi pobl fyddar ac mae’n darparu cefnogaeth gwaith cymdeithasol i bobl sy’n iau na 65 oed sydd ag anabledd corfforol, synhwyrol neu niwrolegol.
Mae’r Tîm Therapi Galwedigaethol yn cynnwys therapyddion galwedigaethol a swyddogion cefnogi anabledd ac yn cwblhau asesiadau am offer anabl ac addasiadau.
Mae’r Gwasanaeth PSNI/IL hefyd yn arwain Taliadau Uniongyrchol ledled yr Adran Taliadau Uniongyrchol. Mae Taliadau uniongyrchol yn ffordd o dalu arian i unigolyn anabl fel y gall ef/hi drefnu ei wasanaethau/gwasanaethau cefnogi ei hun.
Mae barn pobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth PSNI yn cael ei gasglu drwy ddefnyddio holiaduron sy’n cael eu rhoi i bawb pan fyddant yn cael asesiad neu adolygiad. Mae hyn yn galluogi pobl i ddweud wrthym am yr hyn rydym wedi ei wneud yn dda, beth allem ei wneud yn well a pha gamau i wella sydd eu hangen arnom.
Cynllun Lleoli Oedolion / Angen Gofalwyr Rhannu Bywydau
Comisiwn Strategaeth PSNI
Mae hon yn ddogfen sy’n cynnwys gweledigaeth a chynllun yr ASC i wella gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’r strategaeth hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac nid yw’n cynrychioli’r farn ddiweddaraf am ddatblygiad y gwasanaeth.