Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion 

(yr hyn a alwyd gynt yn Gymorth Hunangyfeiriedig)

Mae Adran Gofal Cymdeithasol Wrecsam yn cydnabod fod pob aelod o’n cymuned yn unigolyn a, phan fyddwn yn gweithio gyda phobl, bod angen i ni sicrhau ein bod yn gweithio mewn dull sy’n rhoi’r ffocws ar yr unigolyn hwnnw. Golyga hyn ein bod yn trin pawb fel unigolyn trwy gydol eu cyfranogaeth gyda’r Adran Gofal Cymdeithasol, gan edrych ar yr hyn sy’n bwysig iddynt a’u helpu i ddatrys eu problemau eu hunain.

Mae’r dull Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion yn cychwyn ar bwynt yr atgyfeirio cychwynnol ac yn cynnwys yr unigolyn ymhob trafodaeth ynghylch y ffordd orau o gwrdd â’u hanghenion. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml â thrafod y problemau a gweithio allan sut y gellid eu datrys, gan greu cysylltiad â phobl eraill ym mywyd yr unigolyn a allai helpu i gwrdd â’u hanghenion a pha gyfleusterau sydd ar gael iddynt yn eu cymunedau lleol. Rydym oll yn aelodau o’n cymunedau lleol ac yn gallu cyfrannu i fywyd y gymuned mewn rhyw ffordd, gan hefyd dderbyn cefnogaeth gan y gymuned. Ar y cam hwn, gellir cyfeirio’r unigolyn at gyrff allanol neu feysydd eraill o Ofal Cymdeithasol Oedolion, e.e. Therapi Galwedigaethol ar gyfer addasiadau, neu at feysydd eraill o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, e.e. yr Adran Tai.

Yn ystod y trafodaethau cychwynnol gyda’r Adran, mae’n bwysig canfod yr hyn y gall pobl ei wneud drostynt eu hunain, a chanfod pa sgiliau bywyd pob dydd y gallent eu dysgu neu eu datblygu (galluogi). Efallai bod cyfle hefyd i helpu’r rheiny sydd wedi colli rhai o’u sgiliau i gael eu hail-alluogi, naill ai drwy gynllun galluogi sydd â ffocws ar yr unigolyn, a allai gynnwys cefnogaeth y talwyd amdano, neu drwy’r tîm ail-alluogi.

Mae perthynas agos rhwng Gofal Cymdeithasol Oedolion ar Bwrdd Iechyd Lleol, ac mae ganddynt rai timau integredig (lle mae staff gofal cymdeithasol a phobl broffesiynol yn y maes iechyd yn cydweithio i gefnogi pobl). Ar hyn o bryd mae Gofal Cymdeithasol Oedolion yn darparu Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion i bobl sydd ag anableddau dysgu ac yn canolbwyntio ar y galluoedd sydd ganddynt, eu targedau a’u dyheadau a sut y gallwn gydweithio i gwrdd ag anghenion yr unigolion hynny yn y ffordd orau.

Mae nifer o opsiynau ar gael i bobl gyflawni eu targedau yn eu ‘rhwydweithiau naturiol’ eu hunain, eu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau lleol. Gallai fod yn briodol hefyd (os yw’r unigolyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau y talwyd amdanynt dan feini prawf cymhwysedd yr adran) i lunio cynllun cefnogi dan Gyfarwyddyd y Dinesydd, sydd â ffocws ar yr unigolyn (mewn cydweithrediad â’r unigolyn, aelodau o’u teulu a/neu ofalwyr gwirfoddol), sy’n dangos yn glir sut y bydd canlyniadau (targedau) pob unigolyn wedi’u cyflawni. Mae amrywiaeth o opsiynau y gellir eu hystyried, yn nhermau cynllunio a sicrhau’r cymorth cywir i’r person perthnasol, yn ogystal â rheoli darpariaeth yr adnoddau sydd ar gael. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y rheiny sydd angen cefnogaeth yn cael cymaint o ddewis, rheolaeth a hyblygedd ag sy’n bosibl. Bydd y Cydlynydd Gofal perthnasol yn gallu trafod yr holl opsiynau i ganfod yr un mwyaf addas ar gyfer yr unigolyn perthnasol.

Llwybr y Cwsmer

  • Cysylltiad 1af Asesiad - cyngor, datrys problemau a throi i'r cyfeiriad cywir
  • Cwrdd ag anghenion brys a galluogi / ail-alluogi
  • Asesu ac Adolygu'r cynllun galluogi (pennu anghenion a chanlyniadau)
  • Cyfrifo'r Gyllideb Bersonol Gychwynnol
  • Cynllunio Cefnogaeth (cynllunio sut i gyflawni'r canlyniadau)
  • Awdurdodi a Dilysu (cytuno a chofnodi'r canlyiadau)
  • Mynd amdani / Gweithredu
  • Monitro ac adolygu (gwirio a yw'r canlyniadau wedi'u cyflawni)

Manylion Cyswllt

Gareth Jones
Cydlynydd Cymorth Hunangyfeiriedig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Erw Las
67 Ffordd Rhosddu
Wrecsam

Ffôn: 01978 298543

yn ôl i'r brig