Rydym yn anelu at sicrhau ein bod yn trin pawb yn onest, yn deg ac a pharch er mwyn "darparu'r gofal cymdeithasol gorau posibl i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam".
Rydym yn anelu at fod yn adran gadarnhaol ac ymategol sy'n darparu gwasanaethau o ansawdd lle ceir:
Cyfeiriad cryf tuag at ddefnyddwyr / gofalwyr.
Ffocws ar y gymuned.
Gwasanaethau integredig.
Ethos o ddarparu gwasanaethau ar sail arferion gonest a gwrthwahaniaethol.
Cysylltiadau cyfathrebu cryf.
Anogaeth i fod yn wreiddiol.
Tuedd i wella'n barhaol ac arolygu perfformaid.
Rydym yn darparu neu'n gwasanaethau ar gyfer:
Plant a theuluoedd mewn angen
Pobl hen
Pobl ag anableddau dysgu, corfforol neu salwch meddwl
Pobl a phroblemau alcohol neu gyffuriau neu rai a effeithir gan HIV
Pobl a nam syhwyraidd
Gofalwyr
Cymunedau lleol.
Cefnogi plant a'u teuluoedd
Gofalu am blant sydd angen gofal, cefnogaeth neu ddiogelwch a mwyhau eu cyfleoedd mewn bywyd
Helpu pobl hen a phobl ag anableddau i fyw bywydau cyn lawned a phosibl
Helpu pobl gyda gofal a chenogaeth yn eu cartrefi preswyl/nyrsio lle gallant gael cefnogaeth ychwanegol
Cefnogi gofalwyr gydag ystod o wasanaethau, gan gynnwys helpu nhw i gael egwyl o ofalu.
Dweud wrthych pa wasanaethau sydd ar gael a phwy sy'n gymwys i'w derbyn
Ceisio ymateb i'ch cais cyntaf o fewn un diwrnod gwaith
Os bydd angen, cynnal asesiad o'ch anghenion. Ceisiwn wneud hyn cyn gynted a phosibl yn ddibynnol ar ei bwysigrwydd
Lle na ddarperir gwasanaethau, byddwn yn esbonio pam na allwn helpu ac un eich cynghori lle gallwch gael help
Lle darperir gwasanaethau, byddwn yn llunio cynllun gofal, byddwch yn cael copi ohono yn dweud wrthych pryd fydd y gwasanaethau'n dechrau. Ceisiwn arolygu'r rhain bob 6 mis i sicrhau eu bod yn dal i gwrdd a'ch anghenion.
Tra bod gwasanethau'n cael eu darpau, bydd gennych aelod o staff a enwir i gysylltu ag ef/hi gydag unrhyw ymholiadau
Os ydych yn anghytuno a'ch asesiad neu gynllun gofal, gallwch ofyn i ni ailedrych ar hyn drwy ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno.
Gwerthfawrogi eich hawl i gyfrinachedd.
Trin pawb yn deg beth bynnag eu hil, rhyw, cyfeiriad rhywiol neu anabledd drwy sicrahau bod pob angen yn cael ei ystyried yn llawn.
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau:
Eich enw
Eich dyddiad geni
Eich cyfeiriad presennol neu ddiweddaraf
Enw perthynas agos (neu ffrind agos)
Enw a chyfeiriad eich meddyg teulu
Enwau adrannau neu sefydliadau araill sy'n helpu chi neu'n delio a'ch achos. Er enghraifft, adran tai, tim nyrsio cymunedol, awdurdod lleol arall, gwasanaeth prawf, sefydliad gwirfoddol ayyb
Eich tarddiad ethnig, crefydd ac iaith eich aelwyd