Llinell Gymorth Uned Hawliau Lles Wrecsam
Ffôn: 01978 298255
Dydd Llun i ddydd Iau: 9.00am tan 5.00pm
Dydd Gwener: 9.00am tan 4.30pm
Mae'r Uned Hawliau Lles (WRU) yn cynnig cyngor a chynrychiolaeth ar holl faterion Budd-daliadau Lles gan gynnwys taliadau Nawdd Cymdeithasol a Chredyd Treth. Mae'r gwaith hwn yn helpu unigolion a'r awdurdod sy'n ymroddedig i hybu Cynhwysiad Cymdeithasol.
I gael gweld swyddog hawliau lles, rhaid i unigolyn fodloni rhai meini prawf penodol. Yn gyffredinol, golyga hyn eu bod wedi cael rhyw fath o gyswllt blaenorol neu gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, gall unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Wrecsam ffonio llinell gymorth yr Uned i gael cyngor a gwybodaeth. Anelwn at ateb cwestiynau mewn ffordd glir a defnyddiol o fewn 24 awr. Y rhif ffôn ar gyfer hyn (a phob ymholiad arall) yw 01978 298255. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau o 9.00am tan 5.00pm ac o 9.00am tan 4.30pm ar ddydd Gwener.
Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad a wnaed ynghylch budd-dal a hawliwyd gennych neu yr ydych yn ei dderbyn, yna gallwch ofyn fel arfer i dribiwnlys annibynnol benderfynu a yw’r penderfyniad yn gywir neu beidio.
Mae'r grwp hwn yn hybu gweithrediadau i arbed tlodi ymysg plant a theuluoedd sydd â phlant. Gweithiwn i sicrhau bod y rhai ar incwm isel yn cael eu budd-daliadau lles perthnasol. Yn ein gwaith ymgyrchu a gwybodaeth, ceisiwn wella budd-daliadau a pholisau i deuluoedd ar incwm isel er mwyn cael gwared ar anghyfiawnder tlodi.
![]()
Dyma wefan y Gynghrair Anabledd, cyhoeddwyr y llawlyfr am hawliau pobl anabl. Ystyrir ni fel yr awdurdod arweiniol ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i bobl anabl.
![]()
Mae'r gwasanaeth yn cynnig cyngor am ddim, cyfrinachol, diduedd ac annibynnol. O'i wreiddiau yn 1939 fel gwasanaeth brys yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae wedi datblygu i fod yn asiantaeth genedlaethol broffesiynol.
![]()
Datrys Tlodi Ymhlith Plant Cymru
Cafodd y wefan hon ei chreu i helpu ymarferwyr lleol, pobl sy'n creu polisïau a strategaethau, a rheolwyr i ddatblygu ymateb lleol i'r broblem o gwtogi ar dlodi ymhlith plant Cymru. Mae'n cynnig pecyn cymorth sy'n disgrifio proses y gellid ei dilyn wrth fynd ati i wneud y gwaith, a chanllawiau i'ch helpu bob cam o'r ffordd. Cafodd wefan Datrys Tlodi Ymhlith Plant Cymru ei chreu gan fudiad Achub y Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru .
![]()
Mae'r Adran yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth a chyngor trwy rwydwaith cyfoes o wasanaethau i bobl o oed gwaith, cyflogwyr, pensiynwyr, teuluoedd a phlant, a phobl anabl.
![]()
Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae'r comisiwn yn gorff cyhoeddus gweithredol anadrannol a sefydlwyd dan Ddeddf Mynediad i Gyfiawnder 1999 i gymryd lle'r bwrdd cymorth cyfreithiol.
![]()
Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
![]()
Cymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Hawliau Lles (NAWRA)
![]()
![]()
Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.