|
Mae'r canlynol yn ddisgrifiad bras o'r budd-daliadau mwyaf cyffredin sydd ar gael yn 2008/09. Nid yw'r rhestr yn ddatganiad awdurdodol o'r gyfraith a bwriedir hi fel canllaw yn unig. Sylwer bod y system nawdd cymdeithasol yn gymhleth ac yn gallu newid yn rheolaidd.
DS:
1. Gall y telerau isod wahaniaethu i rai grwpiau cleient, ee pobl o dramor, pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ac ysbytai, ac ati. Ceisiwch gyngor pellach os yw hyn yn berthnasol i chi.
2. Er fod y ffurflen berthnasol y mae’n rhaid ei llenwi i wneud cais am fudd-dâl wedi ei rhestru, mae’n well gan yr Adran Waith a Phensiynau i bobl wneud cais dros y ffôn. Er hynny, yn ôl y gyfraith, nid oes dim all atal unrhyw un rhag gwneud cais ar bapur mewn swyddfa Adran Waith a Phensiynau.
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Defnyddiwch eich llygoden i glicio ar lythyren briodol yn y tabl uchod a bydd rhestr o'r holl fudd-daliadau sy'n cychwyn gyda'r llythyren honno'n ymddangos.
A
| Ategiad Incwm |
| Beth ydyw: |
Budd-dal sy'n destun prawf moddion i bobl ar incwm isel. Yn dibynnu ar sefyllfa hawlydd, bydd y llywodraeth yn ychwanegu at lefel incwm rhywun i swm a sefydlwyd ymlaen llaw. |
| Faint ydyw: |
Yn dibynnu, cysylltwch â ni am fanylion. |
| Hawlio: |
A1 (dan 60). I'r rhai dros 60, gweler Credyd Pensiwn |
yn ôl i'r brig
B
| Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol |
| Beth ydyw: |
Budd-dal a delir i bobl sydd wedi cael eu hanablu oherwydd damwain/afiechyd a achoswyd gan gyflogaeth. |
| Faint ydyw: |
Mae'n dibynnu ar yr anabledd (lleiafswm = £27.36 mwyafswm = £136.80 i rai dros 18) |
| Hawlio: |
Ffurflen BI95 |
yn ôl i'r brig
| Budd-dâl Analluogrwydd (yn flaenorol Budd-dâl Anabledd a Budd-dâl Salwch) |
| Beth ydyw: |
Budd-dâl a delir i bobl sy’n analluog i waith ac yn bodloni amodau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol neu’n dod yn analluog i waith yn eu hieuenctid. |
| Faint ydyw: |
Mae sawl cyfradd yn dibynnu ar oedran, amser yr ystyriwyd na allech weithio ac a yw hawliad yn cynnwys cymar. |
| Hawlio: |
SSP1, IB(Y)1 neu SC1 |
| Nodyn: Bydd y bud-dâl hwn yn cael ei ddileu i hawlwyr newydd ym mis Hydref 2008 pan gyflwynir “Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth”. (bydd y rhai, ar Fudd-dâl Analluogrwydd bryd hynny yn cael trosglwyddo rywbryd i’r budd-dâl newydd). |
yn ôl i'r brig
| Budd-dal Plentyn |
| Beth ydyw: |
Tâl i bobl sy'n gofalu am blentyn / blant. |
| Faint ydyw: |
£18.80 plentyn cyntaf
£12.55 plant eraill |
| Hawlio: |
Ffurflen CH2 |
yn ôl i'r brig
| Budd-dal Tai |
| Beth ydyw: |
Budd-dal a delir i bobl sy'n gorfod talu rhent (Nid morgais) ac sydd ar incwm isel. |
| Faint ydyw: |
Mae'n dibynnu - mae cyfrifiad 'graddfa raddol' sy'n destun prawf moddion. Bydd y rhai sy'n derbyn Ategiad Incwm, Lwfans Ceiswyr Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu elfen gwarant y Credyd Pensiwn yn derbyn budd-dal tai llawn fel arfer. |
| Hawlio: |
Cysylltwch ag Adran Budd-Daliadau Tai Cyngor Wrecsam neu os ydych yn hawlio Ategiad Incwm, cwblhewch ffurflen HTCB1 yn y pecyn hawlio. |
| Nodyn: o fis Ebrill 2008, os yn rhentu oddi wrth landlord preifat, adwaenir budd-dâl fel Lwfans Tai Lleol |
| Budd-dal Treth y Cyngor |
| Beth ydyw: |
Budd-dal a delir i bobl sy'n gorfod talu Treth y Cyngor ond sydd ar incwm isel. |
| Faint ydyw: |
Mae'n dibynnu - mae cyfrifiad graddfa raddol sy'n destun prawf moddion. Bydd y rhai sy'n derbyn Ategiad Incwm, Lwfans Ceiswyr Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu elfen gwarant y Credyd Pensiwn yn derbyn budd-dal treth y cyngor llawn fel arfer. |
| Hawlio: |
Cysylltwch ag Adran Cyllid Cyngor Wrecsam neu os ydych yn hawlio Ategiad Incwm, ayb, cwblhewch ffurflen HCTB1 yn y pecyn hawlio. |
yn ôl i'r brig
| Budd-daliadau Iechyd |
|
Yn gyffredinol darperir gofal iechyd am ddim gan y GIG. Er hynny, mae taliadau penodedig am rai eitemau a gwasanaethau (presgripsiwn, triniaeth ddeintyddol, profion golwg, sbectol, ac ati). Mae rhai eithriadau i rai sy’n derbyn rhai budd daliadau ac mewn rhai sefyllfaoedd, ee preswylwyr mewn cartrefi gofal, ceiswyr llochesi, cleifion mewn ysbytai. O fis Ebrill 2007 mae’r rhan fwyaf o bresgripsiynau am ddim yng Nghymru ond nid yn Lloegr.
|
yn ôl i'r brig
| Budd-daliadau Mamolaeth (a Thadolaeth) |
| Beth ydyw: |
Amryw o fudd-daliadau yn cynnwys Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Lwfans Mamolaeth a Chredydau Treth. Mae pob un yn gyfyngedig i Amser. Telir rhai gan gyflogwr, rhai gan yr Adran Waith a Phensiynau. |
| Faint ydyw: |
Symiau amrywiol. Gwiriwch gyda'r swyddfa hon. |
| Hawlio: |
Trwy gyflogwr, Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid y Wlad. Ffoniwch yr Uned Hawliau Lles ar 01978 298254 i weld pa un sy'n briodol i chi. |
| Budd-daliadau Profedigaeth |
| Beth ydyw: |
Budd-dal nawdd cymdeithasol a delir i alarwyr. Mae'n cymryd lle'r Budd-dal Gwragedd Gweddw o 2001. |
| Faint ydyw: |
Tâl Profedigaeth - £2,000
Lwfans Rhieni Gweddw - £90.70 (sylfaenol)
Lwfans Profedigaeth - £90.70 (graddfa lawn) |
| Hawlio: |
Ffurflen BB1 |
yn ôl i'r brig
C
| Credyd Pensiwn |
| Beth ydyw: |
Enw newydd am Ategiad Incwm i bobl dros 60 oed a gyflwynwyd ym mis Hydref 2003. I bobl dros 65 oed, gall credyd 'cynilion' fod yn gymwys hefyd. Mae'n wobr gan y llywodraeth i'r rhai sydd wedi gallu neu sydd wedi dewis cynllunio ar gyfer ymddeoliad trwy gynilo neu dalu i mewn i gynllun pensiwn. |
| Faint ydyw: |
mae'n dibynnu, gwiriwch gyda ni. |
| Hawlio: |
PC1 |
| Sylwer: Os ydych eisoes yn derbyn Ategiad Incwm ni ddylai fod angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer credyd pensiwn. Dylech ei gael fel mater o drefn. |
yn ôl i'r brig
yn ôl i'r brig
| Credyd Treth Plant |
| Beth ydyw: |
Taliad i deuluoedd gyda phlant. Gweinyddir gan Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (“HMRC”) ac mae’n disodli taliadau blaenorol i blant a wnaed gyda Chymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Teuluoedd yn gweithio a Chredydau Treth Personau Anabl |
| Faint ydyw: |
Mae'r symiau'n amrywio. Disgrifir taliadau'n unigol:-
£2,085 = elfen blentyn
£2,540 = elfen plentyn anabl
£1,020 = elfen plentyn ag anabledd difrifol
£ 545 = elfen deulu
£ 545 = elfen deulu (ychwanegiad baban) |
| Hawlio: |
TC600 |
yn ôl i'r brig
| Credydau Treth |
| Beth ydyw: |
Cynllun newydd o Ebrill 2003. Gweinyddir y credydau gan Refeniw a Threthi Ei Mawrhydi ac maent yn cymryd lle'r credyd treth teuluoedd sy'n gweithio, credyd treth unigolion anabl, elfennau penodol o ategiad incwm a lwfans ceiswyr gwaith sy'n seiliedig ar incwm a chredydau teulu.
Y ddwy brif elfen yw:
- Credyd treth plant
- Credyd treth gwaith
- ar gyfer teuluoedd incwm isel / canolig, sy'n gweithio neu beidio, sy'n gyfrifol am o leiaf un plentyn
- tâl sy'n seiliedig ar incwm i oedolion sy'n gweithio
|
| Faint ydyw: |
Mae'n amrywio, yn dibynnu ar eich incwm. Mae'r taliadau'n cael eu cyfrif ar sail flynyddol (yn wahanol i fudd-daliadau eraill a gyfrifir ar sail diwrnod neu fis) |
| Hawlio: |
Ffurflen TC600 |
| Cronfa Gymdeithasol |
| Beth ydyw: |
Mae'r gronfa gymdeithasol a reoleiddir yn cwmpasu grantiau mamolaeth, taliadau angladd, taliadau tywydd oer a thanwydd gaeaf. Mae'r gronfa gymdeithasol ddewisol yn cwmpasu grantiau gofal cymunedol, benthyciadau cyllidebu ac argyfwng. Rhaid bodloni sawl amod yn dibynnu ar y math o dâl sy'n cael ei hawlio. |
| Faint ydyw: |
Mae'n amrywio |
| Hawlio: |
Cronfa ddewisol
Gofal cymunedol SF300
Cyllidebu SF500
Argyfwng SF401
Cronfa a reoleiddir;
Mamolaeth SF100
Angladd SF200
Tanwydd gaeaf Tywydd oer (telir fel mater o drefn) |
yn ôl i'r brig
| Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol |
| Gellir talu rhai budd-daliadau dim ond os yw cofnod cyfraniadau yswiriant cenedlaethol unigolion yn ddigonol. Telir y rhain trwy gyflogaeth fel arfer (cyflogedig neu hunangyflogedig) er y gellir gwneud cyfraniadau gwirfoddol hefyd. |
G
yn ôl i'r brig
| Gwarant Lleiafswm Incwm |
| Dyma enw arall am Ategiad Incwm i bobl dros 60 oed. Cymerwyd ei le gan y Credyd Pensiwn ym mis Hydref 2003. |
yn ôl i'r brig
L
| Lwfans Anabledd Difrifol
- Diddymwyd y budd-dâl hwn i hawlwyr newydd ym mis Ebrill 2001 |
| Beth ydyw: |
Budd-dâl i bobl analluog i weithio na fodlonodd gofnod y Cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol am Fudd-dâl Anallu. Mae’r rhai oedd yn derbyn Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001 yn parhau i’w dderbyn os yn dybiedig analluog i weithio |
| Faint ydyw: |
£51.05 (swm sylfaenol) |
| Hawlio: |
Ddim yn berthnasol |
yn ôl i'r brig
| Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) |
| Beth ydyw: |
Budd-dal nad yw'n destun prawf moddion i bobl ag anabledd, dan 65 oed ag anghenion symudedd a / neu ofal. |
| Faint ydyw: |
Symudedd
Graddfa is £17.75
Graddfa uwch £46.75
Gofal
Graddfa isel £17.75
Graddfa ganolig £44.85
Graddfa uchel £67.00 |
| Hawlio: |
DLA1 |
| Sylwer: Os ydych yn meddwl eich bod yn cymhwyso ar gyfer y budd-dâl hwn, cyflwynwch gais. Ni fydd cais llwyddiannus yn effeithio er gwaeth ar unrhyw incwm arall. Ond os ydych eisoes yn derbyn rhyw ran o LBA a’ch bod yn credu bod gennych hawl i swm uwch peidiwch â chyflwyno cais pellach heb gael cyngor yn gyntaf oddi wrth yr Uned Hawliau Lles ar 298254. |
| Lwfans Ceisio Gwaith (LCG)(yn flaenorol Budd-dâl Diweithdra) |
| Beth ydyw: |
Budd-dâl i rai diwaith (neu sy’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ond sy’n ceisio gwaith llawn amser). Mae dau fath o LCG: mae un yn dibynnnu ar gofnod cyfraniad yswiriant cenedlaethol, ac mae’r llall yn gweithio ar system brawf moddion tebyg i Gymhorthdal Incwm. |
| Faint ydyw: |
£60.50 (i rai dros 25 ac yn bodloni amodau Yswiriant Cenedlaethol). Mae’r symiau’n amrywio ar gyfer LCG yn seiliedig ar incwm, yn debyg i Gymhorthdal Incwm. |
| Hawlio: |
Pecyn ceiswyr gwaith o ganolfannau gwaith yn unig. |
yn ôl i'r brig
| Lwfans Gofalwr (Lwfans Gofal Anabl cynt) |
| Beth ydyw: |
Budd-dal i ofalwyr sy'n gofalu am rywun sy'n derbyn Lwfans Gweini neu elfen gofal y Lwfans Byw'n Anabl ar y raddfa ganolig neu uwch. |
| Faint ydyw: |
£50.55 |
| Hawlio: |
DS700 |
| Sylwer: Weithiau gall hawlio’r budd-dâl hwn effeithio ar daliadau’r unigolyn rydych yn gofalu amdano/i. Gofynnwch am gyngor cyn hawlio. Hefyd, gall hawlio’r budd-daliad hwn roi hawl i Gredyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor |
yn ôl i'r brig
| Lwfans Gwaith a Chefnogaeth |
| Beth ydyw: |
Bydd yn disodli y Budd-dâl Analluogrwydd cyfredol a Chefnogaeth Incwm a delir i’r rhai analluog i waith o fis Hydref 2008. Gweithredir mwy o brofion caeth. |
| Faint ydyw: |
I’w hysbysu |
| Hawlio: |
Ffurflen BG1 |
| Lwfans Gwarchodwyr |
| Beth ydyw: |
Budd-dâl a delir i bobl sy’n gofalu am blant sy’n amddifad i bob pwrpas |
| Faint ydyw: |
£13.45 am bob plentyn sy’n cymhwyso |
| Hawlio: |
Ffurflen BG1 |
| Lwfans Gweini |
| Beth ydyw: |
Budd-dal nawdd cymdeithasol a delir i bobl 65+ ag anghenion gofal. |
| Faint ydyw: |
£44.85 (is) £67.00 (uwch) |
| Hawlio: |
Ffurflen AA1 |
yn ôl i'r brig
| Lwfans Tai Lleol (LTLl) |
| Beth ydyw: |
Enw newydd i Fudd-dâl Tai i’r rhai sy’n rhentu yn y sector breifat. |
| Faint ydyw: |
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol |
| Hawlio: |
|
yn ôl i'r brig
P
yn ôl i'r brig
| Pensiwn Ymddeol Gwladol |
| Beth ydyw: |
Tâl i'r rhai o oed ymddeol sydd wedi talu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol yn ystod eu bywyd gwaith. |
| Faint ydyw: |
£90.70 (swm sylfaenol ar gyfer pensiwn Categori A) |
| Hawlio: |
Ffurflen BR19 (anfonir hon atoch rhyw 4 mis cyn i chi gyrraedd oedran pensiwn) |
yn ôl i'r brig
Rh
| Rhif Yswiriant Cenedlaethol |
| Mae'n statudol ofynnol i hawlydd budd-dal feddu ar rif yswiriant cenedlaethol. Ni thelir y budd-dal fel arall. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n dod o dramor a allai fod yn gymwys i gael budd-daliadau (ffoaduriaid, ayb). |
yn ôl i'r brig
T
yn ôl i'r brig
| Tâl Salwch Statudol |
| Beth ydyw: |
Budd-dal a delir i weithwyr os na allant weithio hyd at 28 wythnos. Ni chaiff unigolion diwaith neu hunangyflogedig y tâl hwn. Telir a gweinyddir ef gan eich cyflogwr. |
| Faint ydyw: |
£75.40 yr wythnos. (Gellir talu mwy fel tâl salwch cytundebol os y cytunwyd gyda’r cyflogwr mewn cytundeb cyflogaeth). |
| Hawlio: |
Rhowch wybod i'ch cyflogwr |
| Taliadau Tywydd Oer |
| Beth ydyw: |
Tâl a wneir i unigolion penodol pan fydd cyfnod diffiniedig o dywydd oer. |
| Faint ydyw: |
£8.50 yr wythnos |
| Hawlio: |
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n ei dalu fel mater o drefn. Cysylltwch â nhw neu ni ynghylch taliadau. |
yn ôl i'r brig
yn ôl i'r brig
yn ôl i'r brig
|