Yn rhan o’n hymdrechion parhaus i wella’r gwasanaeth a ddarparwn, rydym:
Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn treulio amser yn dweud wrthym beth rydych yn feddwl.
Mae cael canmoliaeth, sylwadau a chwynion gennych yn bwysig i ni. Maen nhw’n ein helpu i wella ein gwasanaethau a gwneud yn siŵr ein bod yn bodloni eich anghenion, felly peidiwch â bod ofn dweud wrthym am eich pryderon.
Byddai’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn hoffi gwybod am brofiadau pobl sy’n derbyn gwasanaethau gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion.
Bydd yr arolwg isod yn ein galluogi i ddysgu o’ch profiadau chi, gan ein helpu i wella’r gwasanaethau a ddarparwn.
Drwy lenwi’r ffurflen hon, cewch chi gyfle i ddweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn dda a beth y mae angen i ni ei newid.
Rydym eisiau gwybod am brofiadau gofalwyr yn Wrecsam. Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion Wrecsam yn adolygu ansawdd y cymorth y mae’n ei roi i Ofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt.
Dywedwch wrthym beth ydym yn ei wneud yn dda beth y mae angen i ni ei newid.
Dylid rhoi’r atebion o’ch safbwynt chi fel gofalwr.
Mae’r Adran Gofal Cymdeithasol yn cynhyrchu Cylchlythyr ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr o leiaf dair gwaith y flwyddyn er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar yr adborth a gafwyd a’r gwelliannau a wnaed.