Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Märkischer Kreis, Yr Almaen – Racibórz, Gwlad PwylMae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gefeillio â dwy ardal Ewropeaidd - Märkischer Kreis yn yr Almaen a Racibórz yng Ngwlad Pwyl.
Sefydlwyd y gefeilliad cyntaf ar 17eg Mawrth 1970 rhwng Kreis Iserlohn gynt a Rhanbarth Gwledig Wrecsam. Ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol y ddwy wlad yng nghanol y saithdegau, oherwydd llwyddiant cynnar y trefeilliad, sicrhawyd ei barhad o dan gynghorau newydd Märkischer Kreis a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam Maelor a drodd yn Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 1996.
Mae dros 25,000 o ymweliadau wedi digwydd dros y blynyddoedd gyda dros 40 o wahanol grwpiau yn gysylltiedig. Dyfarnwyd Baner Anrhydedd Ewrop i’r gefeilliad a Phlac Anrhydedd Ewrop am ei gyfraniad i ddealltwriaeth Ewropeaidd. Ar wahân i ymweliadau swyddogol a theithiau cyfnewid rhwng clybiau, mae nifer di-rif o ymweliadau preifat a chyfeillgarwch wedi bod, heb sôn am bedair priodas.
Roedd y gefeilliad wedi bod yn un â chysylltiad diwylliannol ac â chwaraeon yn bennaf, wrth i blant ysgolion, grwpiau sgowtiaid, grwpiau drama, clybiau chwaraeon, (tennis, golff, nofio, pêl-droed, karate, jiwdo), clybiau ieuenctid, corau, bandiau, grwpiau cerddorol, cysylltiadau proffesiynol (heddlu, staff ysbytai, darlithwyr colegau, penseiri, peirianwyr, hyfforddwyr gyrru, gwasanaeth tân, ffermwyr), mudiadau gwirfoddol (y Groes Goch), fynd ar deithiau cyfnewid yn ogystal â nifer o deithiau preifat. Mae pobl ifanc wedi cael ymweld â’u rhanbarthau gefeillio ar brofiad gwaith ac mae eraill wedi cymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau ar y cyd gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a’r celfyddydau gweledol gan gynnwys prosiectau ar y cyd megis Cerddorfa Ieuenctid Cymru/Yr Almaen.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fodd bynnag, mae’r gefeilliad wedi gweld nifer o fentrau newydd megis cyfnewid arddangosfeydd, sefydlu cysylltiadau busnes ac economeg, a chymryd rhan mewn prosiectau Ewropeaidd ar y cyd sy’n cynnwys Wrecsam, Racibórz a Märkscher Kreis.
Mae’r holl weithgareddau hyn wedi meithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth go iawn rhwng pobl o wahanol rannau o Ewrop, sy’n darganfod bod ganddynt lawer iawn yn gyffredin â’i gilydd. Mae wedi bod yn arfer i gynnal digwyddiadau dathliadol i nodi pen-blwydd Gefeilliad Wrecsam / Märkischer Kreis bob pum mlynedd, a’r diweddaraf oedd y dathliadau pen-blwydd yn 35 oed yn 2005.
Yn 2001, trefnodd Märkischer Kreis i efeillio â Racibórz (Ratibor), sir yng Ngwlad Pwyl, a oedd yn arfer bod yn rhan o Silesia yn yr Almaen. Ym Medi 2002, daeth cynrychiolwyr o Racibórz i ymweld â Wrecsam a dechreuodd trafodaethau dechreuol am y posibilrwydd o gydweithrediad a arweiniodd yn y pen draw at arwyddo Erthyglau Gefeillio rhwng Wrecsam a Racibórz ym Mawrth 2004.
Roedd cydnabod dau brif bwynt yn ategu at nodau ac amcanion y trefeilliad newydd sef:-
Gŵyl ‘Green Light’ 2011Mae ‘Green Light’ yn brosiect gefeillio a ariennir gan y cyngor Prydeinig sy’n cysylltu awdurdod lleol Wrecsam ag awdurdod lleol Raciborz yng Ngwlad Pwyl. Mae ein Canolfan Fictoria i bobl Ifanc hefyd wedi ei gefeillio â’r Cartref Diwylliant yn Raciborz ac mae Ysgol Clywedog wedi ei gefeillio â Gimnazjum Nr 3, un o ysgolion uwchradd Raciborz (mae ysgolion eraill Wrecsam wedi eu gefeillio ag ysgolion Raciborz drwy eu rhaglenni gefeillio eu hunain).
Diben y prosiect yw rhannu arfer da mewn addysg amgylcheddol. Roedd blwyddyn gyntaf y prosiect (y llynedd) yn ymwneud â ffotograffiaeth, cerddoriaeth, celf a gweithdai amgylcheddol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Pobl Ifanc Fictoria yn Wrecsam ac Ysgol Clywedog (a’i ysgolion fwydo cynradd).
Fel rhan o flwyddyn 2 y prosiect Green Light byddwn yn cynnal Gŵyl Green Light yn Wrecsam o 20fed Mehefin i 1af Gorffennaf 2011. Bydd hwn yn ddigwyddiad am wythnos a fydd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd addysg amgylcheddol i bobl ifanc ac yn cynnwys arddangosfa gyhoeddus i roi gwybod am hyn i gymuned ehangach Wrecsam. Mae’r ŵyl hefyd yn cefnogi blaenoriaeth gorfforedig Wrecsam i leihau ei ôl troed carbon yn ogystal â’i strategaeth gymunedol a’i ymrwymiadau i’r strategaeth wastraff a Blwyddyn Diwylliant Wrecsam.
Perfformiad Golau Gwyrdd a Marchnad Amgylcheddol (1 Gorffennaf 2011)Lleoliad: Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Amser: 10am-3pm
Cynulleidfa: Ysgolion / Y cyhoedd
Daw'r digwyddiad hwn â pherfformiadau dawns, drama, cerddoriaeth a chân ynghyd o ysgolion a grwpiau ieuenctid ar draws Wrecsam. Maent i gyd wedi'u seilio ar thema amgylcheddol. Hefyd, ceir marchnad amgylcheddol, lle gall grwpiau a mudiadau lleol arddangos y gwaith y maent yn ei wneud i hyrwyddo addysg amgylcheddol.


Gŵyl Golau Gwyrdd Wrecsam Rhaglen 2011
Gŵyl Golau Gwyrdd Wrecsam Rhaglen 2011 – PDF Ffersion 996Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Gweinyddir y gefeilliad gan Adran Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth am y gefeilliad, ffoniwch 01978-292683 neu e-bostiwch
leisure@wrexham.gov.uk