Croeso
i Raglen Urban II Gorllewin Wrecsam 2000 - 2008Roedd Rhaglen Urban II Gorllewin Wrecsam yn fenter adfywhau cymunedau a ariennid gan Ewrop ac a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cymuned gyfranogol ac entrepreneuraidd.
Gwariwyd cyfanswm o £16miliwn (yn cynnwys £6.8miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) rhwng 2000 a 2006 ar brosiectau yng Ngorllewin Wrecsam. Rhoddwyd sêl bendith ar 29 cais ar gyfer amrywiaeth o brosiectau o gynlluniau chwarae haf a grantiau busnes i ganolfannau adnoddau gwerth miliynau o bunnoedd.
Amcan y prosiectau hyn i gyd oedd cefnogi busnesau newydd a busnesau oedd eisoes yn bodoli ac i gynorthwyo pobl oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a chymryd rhan o fewn eu cymuned, ac maent yn parhau i wneud hynny.
Mae ardal Gorllewin Wrecsam yn cynnwys 9 ward:
Er bod Rhaglen URBAN II wedi gorffen bellach mae etifeddiaeth y Rhaglen yn parhau drwy Bartneriaeth Gorllewin Wrecsam gyda’i brosiectau parhaol a’i gynlluniau i’r dyfodol.
Ffôn: 01978 2925939
Ffacs: 01978 292445
Cyfeiriad post:
Rhaglen URBAN II Gorllewin Wrecsam
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Datblygiad Economaidd (3ydd Llawr)
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR