Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu cymunedau lleol a chyfrannu tuag at gyflawni datblygiad cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig. Mae'n ofynnol ar bob cyngor i ddatblygu strategaeth gymunedol mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill o'r sector cyhoeddus fel yr heddlu, iechyd, busnesau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol, sy'n dangos targedau a chamau hirdymor i wella eu hardal leol.
Roedd gennym ran flaenllaw yn y Bartneriaeth Strategaeth Gymunedol sydd wedi diffinio'r weledigaeth, blaenoriaethau a nodau cymunedol i wella ardal Wrecsam dros y cyfnod 2004-2020. Mae Ffigur 3 yn dangos y chwe blaenoriaeth strategol allweddol a nodwyd yn y Strategaeth Gymunedol.
Mewn ymateb i adolygiad Beecham o gyflenwi gwasanaethau lleol, ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwell perthynas gyda chylchoedd lleol ac atgyfnerthu arweinyddiaeth gwasanaethau lleol i ganolbwyntio mwy ar anghenion y dinesydd. Rhan o'r ymrwymiad hwn oedd datblygu Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSB) o'r Partneriaethau Strategaeth Gymunedol presennol.
Roedd Wrecsam yn un o chwe ardal a ddewiswyd fel prosiect datblygu ac mae wrthi'n gweithio ar wneud y trawsnewid hwn. Ar hyn o bryd ffurfiwyd y LSB o gynrychiolwyr uchel yr awdurdod lleol, y sector iechyd, addysg uwch, yr heddlu, Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector gwirfoddol. Bydd y bwrdd yn gweithio ar faterion hollbwysig i sicrhau ymateb cyfundrefn gyflawn i anghenion dinasyddion, ac un o swyddogaethau allweddol y LSB fydd cytuno a sicrhau cyflawni nifer o flaenoriaethau allweddol ar sail Cytundeb Gwasanaethau Lleol (LSA). Bydd y Cytundeb Gwasanaethau Lleol yn adeiladu ar y themâu o'r Strategaeth Gymunedol a blaenoriaethau presennol Wrecsam ar y cyd.

Mae'r chwe blaenoriaeth strategol allweddol a nodir yn niagram y Weledigaeth Gymunedol fel a ganlyn:
Lle sy'n gwerthfawrogi dysgu
Lle diogel
Lle gofalgar ac iach
Lle y gwerthfawrogir plant a phobl ifanc
Lle sy'n ffynnu'n economaidd
Lle sy'n gofalu am yr amgylchedd
Bwriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw dal i wneud Wrecsam yn lle ffyniannus a bywiog i fyw, gweithio ac ymweld. Bydd gwaith parhaol gyda’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ganolog i ‘gyflawni’r pethau pwysig’ i bobl Wrecsam yn 2009/10 a thu hwnt.
Isod mae gwybodaeth sy’n disgrifio blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer 2009/10, gan dynnu sylw at y gweithgareddau a gwasanaethau allweddol y mae’r Cyngor yn eu gwella er mwyn gwneud cyfraniad pwysig at fywydau pobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dros y deuddeg mis diwethaf, bu’r Cyngor drwy broses drwyadl i nodi’r blaenoriaethau y byddwn yn canolbwyntio ar eu gwella dros y tair blynedd nesaf.
Wrth sefydlu ein hagenda er gwella, rydym wedi ystyried sut y gwnaethom eisoes, dadansoddiad o wybodaeth o’n prosesau cynllunio corfforaethol a gwasanaethau, adolygiad risg strategol, asesiadau o effaith ar gynaliadwyedd a chydraddoldeb, ymgynghoriadau â chwsmeriaid, gwaith arbed a chanfyddiadau archwiliad ac arolwg. Mae proses drwyadl ‘Asesu Risg ar y Cyd’ â Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn sail i ‘gyflawni’r pethau pwysig’.
Mae’r Cyngor wedi nodi 3 Blaenoriaeth i’r Cyngor a 7 Blaenoriaeth er Gwella ac yn sail i’n gwaith mae ein hymroddiad parhaus i sicrhau cyflenwi ein holl wasanaethau gwasanaethau mewn ffordd gyfiawn a chynaliadwy.
Yn aml bydd cyflawni ein blaenoriaethau’n gofyn bod nifer o adrannau’n cydweithio ac, er mwyn cydgysylltu’r gwaith hwn yn effeithiol, mae Cyfarwyddwr ar gyfer pob blaenoriaeth sy’n atebol am sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cyflawni.
Yn gryno, ein Blaenoriaethau o ran y Cyngor a Gwella yw:
Cyflawni'r Pethau Pwysig
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cyflawni'r Pethau Pwysig - Fersiwn Word 73Kb ![]()
Cyflawni'r Pethau Pwysig - Fersiwn PDF 120Kb ![]()
Cyflawni'r Pethau Pwysig - Fersiwn RTF 57Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech fwy o wybodaeth am feysydd penodol, yna cyfeiriwch eich ymholiadau at:
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant
Uned Perfformiad a Gwelliant
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
Ffôn: 01978 292259
E-bost: statistics@wrexham.gov.uk