Meini Prawf Derbyniadau

Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol (ALl) yn cadw at ei ddyletswydd i sicrhau darpariaeth addysg effeithlon a defnydd effeithlon o adnoddau. Wrth wneud hyn, bydd yr A.A.Ll. yn rhoi ystyriaeth i'r holl adnoddau, gan gynnwys yr adeiladau a'r staff sydd ar gael i bob ysgol ac unrhyw gyfyngiadau o orfodir gan drefniadaeth a chwricwlwm yr ysgol. Bydd hefyd yn ystyried yr oblygiadau i'r Awdurdod o ran adnoddau a'r effaith ar bolisau addysg eraill.

Mae meini prawf yr ALl ar gyfer derbyniadau i ysgolion yn ddibynnol ar:

  • Gyfrifoldeb yr ALl i sicrhau bod disgybl â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei dderbyn gan ysgol sy’n gallu diwallu’r anghenion hynny;
  • Cyfrifoldeb yr ALl i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth o ran cyfyngu ar faint dosbarthiadau babanod.
  • Cyfrifoldeb yr ALl i sicrhau darpariaeth addysg effeithlon a defnydd effeithlon o adnoddau; ac unrhyw gyfyngiad a all godi mewn perthynas ag ysgol arbennig oherwydd cadw at y nifer derbyn, sef nifer y plant y gellir eu derbyn ym mhob grwp blwyddyn yn ystod y flwyddyn ysgol.

Meini Prawf Gormod o Geisiadau

Wrth ystyried dewis y rhieni, defnyddir y meini prawf oni bai fod yr ALl wedi cytuno gyda chorff llywodraethol unigol ar drefn blaenoriaeth wahanol fel y cyhoeddwyd ym mhrosbectws yr ysgol. Lle mae mwy o rieni wedi mynegi dewis ar gyfer ysgol mewn blwyddyn benodol nag y mae lle ar eu cyfer defnyddir y meini prawf canlynol yn y drefn a nodir:

  • Bydd yr ALl yn ystyried anghenion plant mewn gofal cyhoeddus (plant sy’n derbyn gofal);
  • Plant sydd ag anghenion meddygol neu addysgol eithriadol (anghenion dysgu ychwanegol sydd, ym marn yr Awdurdod Derbyn, yn cyfiawnhau derbyniad mewn ysgol benodol;
  • Plant y mae eu hysgol ddewisol hefyd yn ysgol addas sydd agosaf at gyfeiriad cartref y disgybl;
  • Plant sydd â brawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol ar ddyddiad eu derbyniad;
  • Plant eraill nad yw meini prawf 1-4 yn berthnasol iddynt. Os oes mwy o ymgeiswyr na lleoedd, bydd y lleoedd wedi’u dyrannu yn nhrefn eu pellter gyda’r rheiny sy’n byw agosaf at yr ysgol yn derbyn blaenoriaeth.

Plant sy’n Derbyn Gofal

Ystyrir ‘Plentyn sy’n Derbyn Gofal’ yn un ‘y gofelir amdano’ gan Awdurdod Lleol yn unol ag Adran 22 o Ddeddf y Plant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dilyn rheoliadau a osodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y caiff diddordebau’r plant sydd fwyaf agored i niwed eu diogelu. Caiff y plant hyn flaenoriaeth o ran y meini prawf ar gyfer gormod o geisiadau, gan gynnwys ceisiadau y tu allan i’r cyfnod derbyn arferol.

Cyfyngu ar Faint Dosbarthiadau Babanod

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr amlinellir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ymroddedig i sicrhau na fydd unrhyw blentyn rhwng 5, 6 a 7 oed mewn dosbarth o fwy na 30 o ddisgyblion am bob athro cymwysedig. Mae’r cyfyngiad statudol ar faint dosbarthiadau babanod yn berthnasol i ddosbarthiadau derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2.

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth am bolisi a gweithdrefnau derbyn ysgolion cliciwch ar y ddolen i Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam.

yn ôl i'r brig