Bydd y drefn dderbyn flynyddol ar gyfer yr oedran perthnasol yn cynnwys y camau canlynol:
Cyhoeddi gwybodaeth am ysgolion unigol (prosbectysau ysgolion) a gwasanaethau'r A.A.Ll., a gadarnheir yn y llyfryn hwn, i'r Ysgolion Cynradd ac Uwchradd;
Trefniadau (pecyn derbyniadau) i alluogi rhieni i fynegi eu dewis o ysgol ar gyfer eu plentyn/plant;
Os na all dau riant gytuno ar eu dewis o ysgol, rhaid iddynt gael cyngor cyfreithiol annibynnol a gorchymyn llys, os oes angen, cyn cyflwyno un ffurflen gais i’r AALl;
Bydd yr AALl/Awdurdod Derbyn yn ystyried y dewisiadau yn unol â'r meini prawf a roddir ac yn cydymffurfio â’r dewisiadau hyn hyd at nifer derbyn pob ysgol;
Mewn achosion lle na ellir caniatu'r dewis, gwneir trefniadau i rieni drafod y mater gyda'r Swyddog Derbyniadau'r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc / Sector Gymorthedig ac os na fydd cytundeb, bydd trefniadau apelio at Bwyllgor Apeliadau Annibynnol;
Caiff rhieni sy'n mynegi dewis ar adeg wahanol i'r oedran derbyn arferol yr un cyfle 'r rhai a amlinellir o dan Bolisi a Gweithdrefnau Derbyniadau i Ysgolion. Fel arfer, dim ond ar ddechau tymor y gellir newid ysgol, ond gellir gwneud hynny yn ystod y tymor ysgol os bydd newidiadau’n digwydd o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol.