Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Derbyniadau i Ysgolion a Gynhelir Gan yr A.A.LL

 

Addysg Feithrin

Mae'r Polisi sy'n ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion meithrin ym mis Medi 2000 yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ond gall rhieni ei gael oddi wrth y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden yn gynnar yn 2000.

Darperir addysg feithrin mewn ysgolion Saesneg a chymraeg yr Awdurdod ar sail 5 sesiwn 2.5 awr yr wythnos i bob plentyn.

Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ganiatáu dewis rhieni, nid yw addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol ac nid oes gan rieni hawl i apelio o dan Ddeddfwriaeth Addysg os byddant yn methu cae lle i'w plentym mewn ysgol feithrin.

Bydd yr Awdurdod yn derbyn plentyn i ysgol feithrin gynaledig ym mis Medi wedi ei b/phen-blwydd yn 3 oed.

Nid yw derbyn y plentyn i ddosbarth neu uned feithrin mewn ysgol fabanod neu gynradd arbennig yn gwarantu y derbynnir ef/hi i'r ysgol honno.

Derbyniadau i Ysgolion Iau/Cynradd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Derbyniadau i Ysgolion Cynradd/Babanod Cynaledig - derbyn i'r Dosbarth Derbyn

Fe dderbyn yr Awdurdod blentyn i ysgol gynradd/fabanod gynaledig ym mis Medi wedi ei b/phen-lwydd yn bedair oed.

I gael lle i'w plentyn (plant) mewn dosbarth Derbyn mae'n rhaid i rieni gyflwyno cais i Bennaeth ysgol gynradd/fabanod.

Trosglwyddo o'r Babanod i'r Adran Iau - Derbyn i flwyddyn 3

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden yn gwahodd rhieni'r plant sydd ar fin trosglwyddo o ysgol fabanod i ysgol iau i fynegi eu dewis o ysgol. Gall rhieni ddewis yr ysgol iau gyfagos neu fe allant enwi ysgol arall sy'n well ganddynt.

Fodd bynnag, dylid nodi petai rhieni'n dewis ysgol wahanol i'r ysgol gynradd briodol agosaf eu cyfrifoldeb hwy fydd cludo eu plant i ac o'r ysgol.

Os nad yw'r Awdurdod yn medru cynnig lle i'r plentyn yn yr ysgol a ddewiswyd gan y rhiant, cynigir lle i'r plentyn mewn ysgol arall. Caiff y rhiant wedyn dderbyn y dewis arall, neu drafod eu sefyllfa gyda'r Awdurdod ac os ydynt yn dal yn anfodlon, gallant roi rhybudd o'u dymuniad i apelio. Bydd manylion pellach ynglyn â'r broses hon ar gael i rieni o fewn amser rhesymol.

Y mae'n rhaid i'r apêl (a anfonir at y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden) fod ar bapur ac yn rhoi'r rhesymau dros gychwyn y broses. Pan fydd apêl, bydd yr Awdurdod yn dechrau ar y drefn apêl statudol.

Rhoddir cyfle i'r rhiant, ynghyd â chyfaill os dymunir, gyflwyno ei a/hachos gerbron y Pwyllgor Apêl Annibynnol. Y mae penderfyniad y Pwyllgor Apêl yn derfynol.

Derbyniadau i Ysgol Uwchradd Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Fel arfer caiff disgyblion eu trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn un ar ddeg.

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden yn gwahodd rhieni i fynegi eu dewis o ysgol uwchradd i'w plentyn. Bydd pob rhiant/gwarcheidwad yn cael ffurflen ddewis. Bydd dewis o rai ysgolion uwchradd ar bob ffurflen. Gall rhieni ddewis unrhyw un o'r ysgolion sydd ar y ffurflen, neu gallant enwi ysgol arall fel eu dewis cyntaf. Dylid nodi, fodd bynnag, bod yn rhaid ateb meini prawf Polisi Cludiant y Fwrdeistref Sirol i gael cludiant am ddim.

Rhydd yr awdurdod ystyriaeth i ddewis y rhieni yn ôl y meini prawf Derbyn.

Os yw'r Awdurdod yn gallu cydsynio â dymuniad y rhieni yna derbynnir y plentyn i'r ysgol honno.

Os nad yw'r Awdurdod yn gallu cydsynio, yna cynigir lle i'w plentyn/plant mewn ysgol arall. Wedyn caiff y rhiant dderbyn y cynnig arall, neu drafod eu sefyllfa gyda'r Awdurdod.

Os ydynt yn parhau'n anfodlon, gallant roi rhybudd o apêl. Bydd rhagor o fanylion ar gael i rieni o fewn cyfnod rhesymol.

Trosglwyddiadau Rhwng Ysgolion ar Adegau Gwahanol i'r Amser Derbyn Arferol

Mae'r Awdurdod yn barod i ystyried ceisiadau trosglwyddo rhwng ysgolion ar amseroedd ar wahân i'r amser derbyn arferol, pan fo hynny er lles y plentyn/plant. Fel rheol ar ddechrau tymor ysgol yn unig y caiff newidiadau o'r fath eu caniatáu ond mewn achosion eithriadol gellir caniatáu newid yn ystod y tymor ysgol.

Dylai rhieni sydd am symud eu plentyn/plant ar amseroedd ar wahân i'r amser arferol gyflwyno cais ysgrifenedig i ysgol bresennol eu plentyn/plant ac i'r ysgol o'u dewis a fydd yn ei ystyried yng nghyd-destun polisi derbyn yr A.A.Ll. ac mewn ymgynghoriad â'r A.A.Ll. neu'r Corff Llywodraethol.

Fel cam cyntaf, fodd bynnag, cynghorir rhieni i drafod datblygiad eu plentyn gyda'r Pennaeth presennol. Ar ddechrau tymor y gwneir trosglwyddiadau fel rheol.

 

 
English
 

Cyswllt i

Dyddiadau Tymor
Cysylltiadau Addysg
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys Addysg
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint