Cyffredinol
Mae gan ysgolion ran bwysig wrth adnabod ac atgyfeirio achosion cam-drin honedig. Cyfrifoldeb yr ysgol unigol yw cynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chynefino priodol
Mae’n ddyletswydd ar yr Adran Dysgu a Chyflawniad i gadw golwg ar hyn yn y sefydliadau sy’n cael eu cynnal ganddo. Dyletswydd y Llywodraethwyr yw hynny mewn sefydliadau eraill, gan gynnwys Colegau ac Ysgolion a Gynhelir â Grant.
Dylai ysgolion a sefydliadau eraill fod â rhywun penodedig ar gyfer Amddiffyn Plant.
Dylai pawb sydd mewn cysylltiad â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, neu sy’n gweithio gyda hwy, fod wedi cael hyfforddiant amddiffyn plant i lefel gymesur â’u swyddogaeth a chyfrifoldebau.
Diffinio Cam-drin Plant
Mae plant yn cael eu cam-drin neu’n dioddef diffyg gofal pan fydd rhywun yn peri niwed, neu’n peidio â gweithredu i atal niwed. Fe all plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn amgylchedd sefydliadol neu gymunedol, gan y rhai sy’n gyfarwydd iddynt neu, yn llai mynych, gan ddieithryn. Gall plant neu bobl ifanc hyd at 18 oed ddioddef camdriniaeth neu ddiffyg gofal a bod angen eu hamddiffyn trwy gynllun amddiffyn plant rhwng asiantaethau.
Ceir gweithdrefnau diogelu plant yn yr awdurdod hefyd a cheir manylion
am y rhain isod
Gweithdrefnau Diogelu Plant
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Gweithdrefnau Diogelu Plant - Fersiwn MS Word 71Kb 
Gweithdrefnau Diogelu Plant - Fersiwn PDF 45Kb 
Gweithdrefnau Diogelu Plant - Fersiwn Testun Plaen 86Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Gwybodaeth Bellach
Ffôn: 01978 297408
ebost: education@wrexham.gov.uk
|