Budd-Daliadau Lles Addysg

Polisi a Threfniadau Darparu Prydau Bwyd a Lluniaeth Ysgafn

Efallai y gallwch hawlio cymorth ariannol neu Iwfansau i helpu gydag addysg eich plentyn. Mae'r paragraffau canlynol yn cyfeirio at yr amrediad o fudd-daliadau sydd ar gael i rieni sy'n cyfarfod y meini prawf.

Os dymunwch gael manylion pellach neu ffurflenni cais dylech ofyn yn ysgol eich plentyn neu gysylltu 'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden, Ty Henblas, Wrecsam, Ffn 01978 297489, email

Bydd yr Awdurdod yn sicrhau:-

  • Bod pryd bwyd canol dydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol gynradd ac ysgol arbennig, gyda dewis lle bo modd.

  • Bod pryd bwyd canol dydd yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol uwchradd ar ddul cafeteria gyda phris unigol i'r eitemau.

  • Mai i ddisgyblion y mae eu rhieni yn derbyn Ategiad Incwm neu sy'n ei dderbyn eu hunain y darperir cinio am ddim.

Gellir cael manylion am y drefn o hawlio prydau ysgol am ddim gan Bennaeth yr ysgol ac fe ymdrinnir phob ymholiad yn gyfrinachol.

Bydd cyfleusterau ar gael ym mhob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i blant sy'n dymuno dod 'u prydau bwyd canol dydd eu hunain.

Deddf Addysg 1996 - Polisi Codi Tl a Pholisi Rhyddhad Rhag Talu

Mae Polisi llawn Codi Tl a Pholisi Rhyddhad Rhag Talu Corff Llywodraethol eich ysgol ar gael gan Bennaeth ysgol eich plentyn.

Polisi'r A.A.LL. Ar Ryddhad Rhag Talu

Y disgyblion sydd hawl i gael rhyddhad rhag talu yw'r rhai hynny y mae eu rhieni yn derbyn Ategiad Incwm neu Gredyd Teulu; neu Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Anabledd Gweithio ar sail incwm.

Y siwrneiau/ymweliadau ysgol a fyddai'n gymwys ar gyfer rhyddhad llawn rhag talu costau llety a chynhaliaeth yw'r rhai sydd: -

  • Yn digwydd yn ystod yr oriau ysgol diffiniedig

  • Yn rhan o ddarpariaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol neu'n rhan o'r ddyletswydd i ddarparu addysg grefyddol.

  • Yn darparu rhan o Faes llafur arholiad penodedig; ac yn bodloni rheolau a rheoliadau A.A.Ll. sy'n berthnasol i siwrneiau ysgol.

Ychwanegiadau Disgresiwn

Gall disgyblion sydd hawl i gael y rhyddhad statudol lleiaf gael eu gwahodd o dro i dro i gynrychioli eu hysgol neu'r A.A.Ll. ar gyfnewidiadau tramor neu gymryd rhan mewn cyrsiau maes neu anturiaethau arbennig. O dan yr amgylchiadau hynny mae'r A.A.Ll. yn bwriadu rhoi ystyriaeth ddisgresiwn i achosion unigol o'r fath.

Mae manylion am y drefn o hawlio rhyddhad ar gael gan Benaethiaid Ysgolion ac ymdrinnir ag ymholiadau yn gyfrinachol. Caiff ceisiadau trwy'r Pennaeth eu prosesu gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Hamdden, Ty Henblas, Wrecsam, 01978 297489/297466, Ebost: education@wrexham.gov.uk

 

yn ôl i'r brig