|
Cred yr AALl bod cydraddoldeb yn ganolbwynt addysg
o safon ac y dylai pob unigolyn dderbyn hawl gyfartal i ddatblygiad a
chyflawni ei botensial trwy gyfrwng y system addysg. Bydd yr Awdurdod
yn gweithio mewn partneriaeth gyda phob grwp sy'n cyfrannu i'r sbectrwm
gwasanaeth addysg: disgyblion, penaethiaid a staff, llywodraethwyr rhieni
a'r gymuned ehangach. Caiff addysg ei chyfeirio tuag at ddatblygiad llawn
y cymeriad dynol a chryfhau parch tuag at bawb. Bydd yr A.A.Ll. yn gweithio
yn erbyn pob math o wahaniaethu sy'n effiethio ar fywyd plentyn a'r bwriad
yw sicrhau bod addysg yn gwir ddiwallu anghenion holl disgyblion a myfyrwyr
beth bynnag fo eu lliw, diwylliant, crefydd, hil, anabledd, dosbarth,
oedran, gallu tueddiadau rhywiol, iaith, cenedl, rhyw neu ethnigrwydd.
|