Gwybodaeth Gyffredinol i Rieni

Cyfrifoldeb Rhieni

Yn dilyn newidiadau yn y ddeddfwriaeth am blant yn Neddf Plant 1989, a ddaeth i rym ym mis Hydref 1991, mae angen i ysgolion gael gwybod pwy sydd chyfrifoldeb rhieni am bob plentyn. Mae hyn yn sicrhau bod caniatd y rhai iawn yn cael ei roi pan fo ar yr ysgol eisiau caniatd rhieni. Mae hefyd yn sicrhau bod y rhai sydd chyfrifoldeb rhieni ond nad ydynt yn byw gyda'r plentyn yn derbyn adroddiadau ysgol a'u bod yn cael cyfle i gyfrannu i addysg y plentyn.

  • Mae gan famau gyfrifoldeb rhiant bob amser.

  • Mae gan dadau gyfrifoldeb rhiant hefyd os yw’r tad yn briod â’r fam ar adeg genedigaeth
    y plentyn. Mae hyn yn parhau ar ôl unrhyw ysgariad/gwahanu/ail briodas, hyd yn oed os
    yw’r plentyn yn byw ar wahân iddynt.

  • Mae gan dadau di-briod gyfrifoldenb rhiant os yw’r tad a’r fam wedi cofrestru
    genedigaeth y plentyn gyda’i gilydd (mae hyn yn newid i’r Ddeddf Planmt 1989 a ddaeth i
    rym ar 1af Rhagfyr 2003 ac nid yw’n ôl-weithredol)
  • Gall tadau dibriod, llys-rieni, tylwyth ac unigolion eraill gael cyfrifoldeb rhiant, ond nid
    ydynt yn cael hyn fel mater o drefn.

Gofynnir i rieni gydweithredu staff ysgol trwy ddarparu manylion i'r ysgol am y rhai sydd chyfrifoldeb rhieni am ddisgybl. Dylid rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw newid mewn cyfrifoldeb rhieni ac am unrhyw newid yn y gofal beunyddiol a gaiff y plentyn.

Mae unrhyw gyfeiriad at "rieni" yn y llawlyfr hwn yn cynnwys unrhyw un sydd chyfrifoldeb am ddisgybl(ion).

Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam

Mae'r dogfen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Canllaw Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam - fformat PDF 1.9Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

yn ôl i'r brig