Llywodraethwyr Ysgol - AALI

Y broses a'r meini prawf mewn perthynas â Phenodi Llywodraethwyr AALI

Proses - (Cadarnhawyd gan y Cyngor ar 15 Tachwedd 2007)

  1. Clerc yn rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Llywodraethwyr am y swydd wag (dau fis cyn i gyfnod y swydd ddod i ben).
  2. Gwasanaethau Llywodraethwyr yn anfon hysbysiad misol at yr holl aelodau etholedig am yr holl swyddi gwag ynghyd â ffurflen enwebu a dyddiad dychwelyd.
  3. Aelodau etholedig yn dychwelyd y ffurflen enwebu i'r Gwasanaethau Llywodraethwyr wedi'i chwblhau a'i llofnodi erbyn y dyddiad cau.
  4. Os nad yw nifer yr enwebiadau'n fwy na nifer y swyddi gwag, gall y Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad awdurdodi'r penodiad ar ran y Cyngor.
  5. Os nad yw nifer yr enwebiadau'n fwy na nifer y swyddi gwag, bydd adroddiad yn cael ei ddrafftio i'r Bwrdd Gweithredol er mwyn penderfynu ar y penodiadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich enwebu fel Llywodraethwr yr AALl gwiriwch eich bod yn bodloni'r meini prawf isod a chysylltwch â'ch aelod lleol yng Nghyngor Wrecsam.

Meini Prawf - (Cadarnhawyd gan y Cyngor ar 15 Tachwedd 2007)

Dylai unigolion a enwebir fel llywodraethwyr AALI fod yn gallu dangos:

  • ymroddiad a diddordeb mewn addysg;
  • dymuniad i gefnogi'r ysgol dan sylw;
  • parodrwydd i wasanaethu'r gymuned leol;
  • sgiliau a phrofiad a fydd un cefnogi gwaith yr ysgol;
  • y gallu i weithio fel aelod o dim;
  • y graddau angenrheidiol o ddoethineb a chyfrinachedd;
  • parodrwydd i roi'r amser sydd ei angen ac aildrefnu ymroddiadau personol i gyflawni eu rhwymedigaethau i'r Corff Llywodraethol;
  • empathi ag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig i gefnogi'r iaith Gymraeg;
  • parodrwydd i gefnogi gobeithion a bwriadau strategol y Fwrdeistref Sirol.

Yn ychwanegol, ni ddylai'r rhai a enwebir -

  • fod wedi eu gwahardd rhag gweithredu fel llywodraethwr ysgol gan wybod;
  • fod yn weithiwr yn yr ysgol.

yn ôl i'r brig