Darparu Cydymaith
Gall yr Awdurdod ddarparu cydymaith i ddisgyblion gyda datganiadau Anghenion
Addysgol Arbennig. Bydd darparu cydymaith yn digwydd ar ôl i'r swyddogion
perthnasol ystyried anghenion unigol y disgyblion neu'r grwp o ddisgyblion
a natur y cludiant sydd ar gael.
Ymddygiad
Bydd y gyrrwr; yn unol â'r drefn gytunedig, yn rhoi adroddiad am unrhyw
gamymddygiad i'r Pennaeth er mwyn iddo/iddi roi gwybod i'r A.A.Ll. am
y digwyddiad. O ganlyniad i hyn mae'n bosibl i'r ddarpariaeth gael ei
dileu.
Ysmygu
Ni chaniateir ysmygu ar unrhyw gerbyd sydd dan gytundeb i'r Cyngor i
gludo disgyblion ysgol i ac o'r ysgol. Bydd gofyn i yrwyr gyflwyno enwau
unrhyw ddisgyblion sy'n torri'r rheol hon i Bennaeth yr ysgol dan sylw.
Amgylchiadau Arbennig Penodol
Gellir darparu cludiant pan fo'r A.A.Ll. yn ystyried bod lefel yr angen
yn cyfiawnhau ystyriaeth arbennig:
Darpariaeth Feddygol
Gellir darparu cludiant am ddim i ddisgyblion sydd â phroblem feddygol
ddifrifol sydd yn effeithio ar eu symudedd hyd yn oed os nad ydynt yn
cyfarfod y meini prawf ar gyfer pellter neu addysg. Ym mhob achos rhaid
cefnogi'r cais gyda thystiolaeth feddygol ac fe'i hadolygir gan y Swyddog
Meddygol Ysgolion a'r Swyddog Datganiadau.
Dull o Gludiant
Wrth benderfynu ar y dull o gludiant sydd ei angen fe ddilynir yr egwyddorion
canlynol:
Ym mhob achos bydd defnydd effeithlon o adnoddau yn pennu'r dull o gludiant
(yn dibynnu ar yr amodau uchod). Fe ellir darparu cludiant trwy'r gwasanaeth
cytundeb cludiant ysgol neu'r gwasanaethau cludiant cyhoeddus presennol,
a fydd ynghyd â'r math o gludiant (bws, bws mini, trên, tacsi ac ati)
yn dibynnu ar ddefnydd effeithiol o'r adnoddau. Mewn rhai achosion fe
all un bws cytundeb gludo gwahanol ddisgyblion i fwy nag un safle ysgol.
Mewn amgylchiadau arbennig fe all fod taliad arian parod (sef 10c y filltir
ar hyn o bryd) ar gael i gludo disgyblion sy'n cyfarfod yr holl feini
prawf os bydd yr A.A.Ll. yn ystyried ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau
arbennig ac yn ddefnydd effeithiol o'r adnoddau.
Casglu a Dychwelyd
Disgwylir i ddisgyblion wneud eu ffordd eu hunain i'r man casglu a ddynodwyd
a leolir yn gymharol agos at eu cartref. Ni fydd unrhyw ddisgybl/fyfyriwr
sy/n gymwys i gael ei gludo ar daith gytundeb yn gymwys i gael cludiant
y tu allan i amserlen ddyddiol arferol y daith gytundeb honno.
Cyfrifoldeb Rhieni
Mae gan rieni gyfrifoldeb am:
-
Gael eu plentyn i ac o'r ysgol os nad ydynt yn gymwys i dderbyn cludiant
am ddim.
-
Wneud cais am gludiant am ddim os yw eu plentyn yn gymwys.
-
Hysbysu'r A.A.Ll. a'r ysgol os bydd newid mewn amgylchiadau a allai
effeithio ar gludiant.
-
Sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am gludiant ar yr adeg
iawn ac yn y lle iawn. Cyfrifoldeb y rhieni yw hebrwng y plentyn i
ac o'r cerbyd.
-
Sicrhau bod ymddygiad eu plentyn wrth ddefnyddio cludiant ysgol yn
gymdeithasol dderbyniol.
|