Llywodraethwyr Ysgol

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethol sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.  Mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth strategol ac ystod o gyfrifoldebau penodol, gan gynnwys cyllid yr ysgol a phenodi staff. 

Mae cyrff llywodraethol yn cynnwys pobl leol a byddant yn cynnwys rhieni, unigolion a benodir gan yr Awdurdod Addysg Lleol, unigolion cyfetholedig, athrawon, y pennaeth a gallant gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned fusnes leol a chynrychiolwyr yr eglwys.  Bydd nifer yr aelodau’n dibynnu ar faint yr ysgol.

Mae gwybodaeth am waith cyrff llywodraethol ysgolion ar gael yn adrannau cyfeiriol y prif lyfrgelloedd cyhoeddus, a gallwch gael gwybodaeth am sut i ddod yn llywodraethwr ysgol gan y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yn y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc.

Rhieni Lywodraethwyr

Mae pob corff llywodraethol ysgol yn cynnwys rhieni lywodraethwyr sy’n cael eu hethol gan rieni disgyblion a gofrestrir yn yr ysgol fel arfer.  Gallwch gael mwy o wybodaeth yn uniongyrchol o’r ysgol.

Llywodraethwyr yr AALl

Os hoffech gael eich ystyried fel Llywodraethwr yr Awdurdod Addysg Lleol, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yn y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc - Dysgu a Chyflawniad (ffôn: 01978 298715).

Cyfarfodydd Rhieni Blynyddol

Mae’n gyfreithiol ofynnol i gyrff llywodraethol baratoi adroddiad sy’n crynhoi’r camau gweithredu a wnaed ganddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau a chyfrifoldebau yn ystod y flwyddyn flaenorol.  Cylchredir fersiwn fer o’r adroddiad i rieni ac mae’r adroddiad llawn ar gael gan yr ysgol ar gais.  Cynhelir cyfarfodydd rhwng llywodraethwyr a rhieni i drafod cynnwys yr adroddiad.  Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn flynyddol fel arfer.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch unrhyw un o ysgolion neu bolisïau’r Cyngor, cysylltwch â phennaeth yr ysgol dan sylw, y corff esgobaethol perthnasol neu Brif Swyddog Dysgu a Chyflawniad y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc.

yn ôl i'r brig