Polisi Cludiant

Mae gofyn i'r A.A.Ll., benderfynu a yw darparu cludiant i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol yn angenrheidiol er mwyn iddynt fod yn bresennol mewn ysgol benodol. Os ystyrir bod cludiant o'r fath yn angenrheidiol yna rhaid darparu cludiant am ddim.

Y Ddarpariaeth (Statudol Finimol)

Ni ddarperir cludiant am ddim ar gyfer plant meithrin.

Mae'r A.A.Ll. yn darparu cludiant am ddim:

  • Os yw plentyn o oedran ysgol gorfodol, o dan wyth oed, yn byw drow ddwy filltir o'r ysgol briodol agosaf.

  • Os yw plentym o oedran ysgol gorfodol, dros wyth oed, yn byw dros dair milltir o'r ysgol briodol agosaf..

Estyniadau Mwy Na'r Lleiafswm (Statudol)

Mae'r A.A.Ll. yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol:

  • Where a child, who has attained 8 years of age, whose parents are in receipt of Income support or Working Families Tax Credit, resides more than 2.5 miles from the nearest suitable school.

  • I'r ysgol Cyfrwng Cymraeg (naturiol neu benodedig) agosaf neu'r ysgol Wirfoddol agosaf o dan y meini prawf a nodwyd uchod.

  • Os yw'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ystyried bod y ffordd i'r ysgol yn beryglus.

  • Os bydd plentyn angen cludiant am resymau meddygol a lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael.

  • Os bydd cludiant i ysgol a benodir yn hanfodol ac wedi ei nodi yn natganiad Anghenion Addysgol Arbennig y disgybl. Fe wneid hyn fel arfer am resymau meddygol, cymdeithasol neu addysgol ac fe'i hystyrid yn hanfodol mewn perthynas meini prawf eraill a nodwyd yn y polisi hwn.

Cludiant Consesiwn

Fe all yr A.A.Ll. ddarparu cludiant consesiwn, am gost, os nad yw disgybl yn gymwys dan y meini prawf uchod ond y gellir ei roi ar daith gludiant gytundebol sydd seddi gwag. Yn yr amgylchiadau hyn:

  • Ar hyn o bryd y gost am dymor yw 50 y plentyn, i'w dalu gan y rhieni. Adolygir y gost yn flynyddol.

  • Fe ellir tynnu consesiynau'n l ar fyr rybudd gydag ad-daliad pro rata pan na fydd seddi rhydd ar gael mwyach.

Fodd bynnag, dan Ddeddf Cludiant 1995, ni chynigir cludiant consesiwn os bydd gwasanaeth cludiant cyhoeddus yn rhedeg ar y daith i'r ysgol ar adegau cyfleus ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.

I rieni disgyblion a leolwyd oherwydd Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig mewn ysgolion sydd y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol neu mewn ysgol breswyl sydd dros 100 milltir o'r cartref, bydd yr A.A.Ll. yn cynorthwyo gyda chostau teithio i rieni i fynd i gyfarfod Arolwg Blynyddol yn y ffordd fwyaf cost effeithiol o blith:

  • Trefnu cludiant gan yr Awdurdod.

  • Gwneud taliad ariannol (sef 10c y filltir ar hyn o bryd); neu

  • Ddarparu tocyn (neu'r arian cyfatebol) i un rhiant neu'r ddau ar gludiant cyhoeddus.

Rhoddir cymorth o'r fath hefyd pan fo disgybl sydd fel arfer yn teithio mewn cerbyd ar gyfer grwp oherwydd salwch. Bydd angen tystysgrif feddygol.

Ni fydd yr A.A.Ll. fel arfer yn cynorthwyo gyda chostau teithio i weithgareddau neu gyfarfodydd eraill.

Ffurflen Cais Addysg Cynradd/Uwchradd am Gludiant Ysgol

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Cais Addysg Cynradd/Uwchradd am Gludiant Ysgol (Saesneg yn unig) - fersiwn PDF 53Kb

Canllawiau Addysg Cynradd/Uwchradd am Gludiant Ysgol (Saesneg yn unig) - fersiwn PDF 45Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig