Ystyrir mai'r ysgol briodol yw'r ysgol:
Agosaf at gartref y plentyn a gynhelir gan yr A.A.Ll., ar hyd y llwybr byrraf, sy'n darparu addysg briodol i oedran, gallu a dawn ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan y disgybl.
Cyfrwng Cymraeg agosaf (naturiol neu benodedig).
Neu'r Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol agosaf.
Nid yw'r A.A.Ll. yn gyfrifol am gost y cludiant:
Pan fo dewis y rhieni'n golygu bod y disgybl yn cael ei roi mewn ysgol neu gyfleustra gwahanol i'r ysgol briodol agosaf.
I ysgolion a gynhelir gan Awdurdodau eraill lle mae derbyniad i'r ysgolion hynny yn ganlyniad dewis y rhieni, oni bai mai honno yw'r ysgol agosaf..
Disgyblion sy'n byw y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam ond sy'n derbyn eu haddysg yn ysgolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dylid cyflwyno cais i'r Awdurdod lle maent yn byw, os yn briodol.
Mae gofyn i'r A.A.Ll. ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys o oedran ysgol gorfodol gyda'r amodau canlynol.
Nid yw'r A.A.Ll. yn darparu cludiant i ddisgyblion sy'n mynd i Ysgol Feithrin neu i Ddosbarthiadau Meithrin yn dair oed. Darperir cludiant o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plentyn yn bump oed.
Mae'r A.A.Ll. yn gwneud darpariaeth ar hyn o bryd i ddisgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol i gael eu cludo am ddim i'r ysgol neu'r coleg addas agosaf, ar deithiau a gomisiynwyd i ddarparu cludiant.
Mae'r A.A.Ll. yn darparu cludiant ar hyn o bryd i'r sefydliad addysgol agosaf sydd ym marn yr A.A.Ll. yn darparu amrediad rhesymol o gyrsiau sy'n addas i alluoedd, doniau a gofynion y disgybl unigol. Dylai'r cyrsiau fod ar lefel uwch na'r rhai blaenorol, er enghraifft, ni fyddai disgyblion sydd yn ailsefyll arholiadau TGAU yn derbyn cymorth fel arfer.
Byddai cludiant ar gael i'r sefydliad agosaf sy'n cynnig cyrsiau lefel "A" sydd yn cyfateb i'r pynciau craidd a sylfaenol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol gan gynnwys Cerddoriaeth a Chelf.
Ni ddarperir cludiant i unigolyn i sefydliad addysgol ar wahn i'r un agosaf onid oes, ym marn yr A.A.Ll., wahaniaeth sylweddol rhwng y cwrs a geisiwyd gan y disgybl a'r cwrs sydd ar gael yn y sefydliad agosaf.