|
Mae'r mathau canlynol o ysgolion i'w cael yng Nghyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam:-
Addysg Feithrin
Darperir Addysg Feithrin mewn dosbarthiadau wedi'u lleoli mewn ysgolion
babanod a chynradd. Addysg rhan amser yw hyn.
Addysg Gynradd
Mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol:-
-
49 o Ysgolion Cynradd Cymunedol a gynhelir gan yr
A.A.Ll.
-
6 Ysgol Gynradd a Reolir yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru.
-
9 Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru.
-
2 Ysgol Babyddol a Gynorthwyir yn Wirfoddol.
Ysgolion Uwchradd
Ar hyn o bryd mae:-
-
6 Ysgol Gymunedol.
-
1 Ysgol Sefydledig, sef Ysgol Maelor, Llannerch Banna.
-
1 Ysgol Babyddol a Gynorthwyir yn Wirfoddol, sef Ysgol Babyddol
Sant Joseff.
- 1 Ysgol Cyfrwng Cymraeg, sef Ysgol Morgan Llwyd.
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae'r Awdurdod yn cynnal nifer o Ysgolion Cyfrwng Cymraeg, a'r iaith
Gymraeg yw prif gyfrwng y dysgu ynddynt. Dynodir y rhain ag (C) yn y rhestr
o ysgolion. Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn.
Ysgolion A Gynorthwyir Yn Wirfoddol
Dyma'r ysgolion a gynhelir ar y cyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a'r
cyrff gwirfoddol. Mae pob ysgol a gynorthwyir yn y Fwrdeistref Sirol naill
ai yn perthyn i'r Eglwys Babyddol neu'r Eglwys yng Nghymru.
Cyfrifoldeb Corff Llywodraethol yr ysgol yw derbyn plant i'r ysgolion
hyn ac mae lleoedd yn cael eu dosrannu'n unol â'r meini prawf cydnabyddedig
fel a ddiffinnir gan y corff llywodraethol perthnasol. Rhoddir y mwyafrif
o leoedd i blant sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol neu'r Eglwys yng Nghymru
sy'n ateb meini prawf y corff llywodraethol perthnasol. Derbynnir nifer
o blant nad ydynt yn perthyn i'r Eglwys Babyddol na'r Eglwys yng Nghymru
hefyd yn unol â pholisi esgobaethol. Mae'r polisi'n ystyried dyheadau
rhieni am amgylchedd crefyddol penodol ar gyfer addysg eu plant.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Bennaeth yr ysgol dan sylw.
Ysgolion A Reolir Yn Wirfoddol
Mae'r ysgolion hyn, y mae'r AALl yn cyfarwyddo eu derbyniadau, hefyd
yn cynnig addysg sy'n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd Cristnogol.
Mae Ysgolion Cynradd a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru yn:
-
Eutyn
-
Y Waun
-
Pentre
-
Borderbrook
-
Rhos (Ysgol y Wern)
-
Yr Orsedd (San Pedr)
-
Wrecsam (San Silyn)
Gellir cael rhagor o wybodaeth am dderbyn disgyblion gan yr AALl.
|