Polisi Iaith Gymraeg

Amcan polisi iaith Gymraeg yr Awdurdod yw sicrhau bod pob disgybl yn cael yr ysgogiad addysgol y mae addysg ddwyieithog yn ei gynnig a'u bod yn datblygu'n fwyfwy rhugl gydag amser.

Cyflwynir dwyieithrwydd ar y cyfle cyntaf. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod addysg ddwyieithog, unwaith iddi gychwyn, yn cael ei chynnal a'i datblygu wrth i'r plentyn fynd yn ei flaen. Nid oes unrhyw eithriadau o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg.

Nid yw’r Awdurdod yn darparu canolfan iaith i blant sy’n dechrau dysgu’r Gymraeg yn hwyrach ymlaen.  Fodd bynnag, gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi datblygu prosiect cenedlaethol i ddarparu cyrsiau trochi hwyr i ddisgyblion gael mynediad at addysg Gymraeg.  Mae cefnogaeth ar gael gan ein Tîm Ymgynghori Cymraeg, o fis Ionawr, i ddisgyblion blwyddyn 6 sy’n mynd i ysgolion Saesneg ar hyn o bryd, sy’n dymuno cael mynediad at addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd ym mis Medi.  Ar ôl gwyliau’r Sulgwyn byddant yn dechrau ar gwrs trochi chwe wythnos yn Ysgol Morgan Llwyd.

Mae ysgolion â Chymraeg yn brif gyfrwng yr addysg yn cyflwyno Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 2 (h.y. 8-11 oed).

Addysg Gynradd

Bydd holl Ysgolion Cynradd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddwyieithog, er y bydd y raddfa o ddwyieithrwydd yn amrywio o ysgol i ysgol. Felly, cyfrifoldeb yr Awdurdod (gyda'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr) fydd gofalu bod athrawon cymwys ar gael fel bod cyfartaledd yr amser a roddir i ddysgu Cymraeg a Saesneg yn unol gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Yn y mwyafrif o ysgolion, Saesneg yw’r brif iaith addysgu.  Caiff  y Gymraeg ei haddysgu fel ail iaith yn yr ysgolion hyn o’r cyfnod meithrin i flwyddyn chwech.

Addysg Uwchradd

Darperir addysg uwchradd trwy gyfrwng y Saesneg neu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â dymuniadau’r rhieni.

Er mwyn cadw a sicrhau dilyniant o'r ysgolion cynradd, dysgir Cymraeg fel ail iaith ym mhob ysgol uwchradd lle mae'r Saesneg yn brif gyfrwng y dysgu.

Darperir addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam lle cynigir pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

yn ôl i'r brig