Derbyniadau Ysgol

Croeso i’r tudalennau derbyniadau ysgol. Yma, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am dderbyniadau i ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Fel yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi gwybodaeth benodol am ei ysgolion a’i bolisïau a fydd, ynghyd â phrosbectws yr ysgol, yn eich helpu i ddewis ysgol. Mae’r wybodaeth hon yn y Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam y dylech gyfeirio ato. Mae copïau printiedig ar gael yn ysgolion a swyddfeydd yr Awdurdod, ac mewn llyfrgelloedd cyhoeddus at ddibenion cyfeirio.

Mae’r Awdurdod yn cynnal nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg lle mae pob un o’r pynciau’n cael eu haddysgu i’r disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae'r Gymraeg yn cael ei chyflwyno a'i haddysgu fel pwnc i'r disgyblion a bydd rhagor o bwyslais yn cael ei roi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn achlysurol trwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae’r Awdurdod hefyd yn gweithredu gwasanaeth cymorth i’r rheiny sy’n dechrau addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddiweddarach. Bydd plant yn derbyn cymorth dwys yn naill ai eu hysgol neu os bydd galw gan grwp bach, yn un o’r ysgolion Cymraeg. Rhoddir cymorth yn rhan-amser (5. cymorth athrawon) ar gyfer dau dymor a bydd ar gael o ddechrau tymor yr Hydref a’r Gwanwyn bob blwyddyn. Mae canran uchel o ddisgyblion sy’n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam ar hyn o bryd yn dod o aelwydydd Saesneg yn bennaf.

Os ydych am ymweld ag ysgol cyn mynegi eich dewis, dylech drefnu apwyntiad gyda’r pennaeth. Yna, gallwch fynegi dewis yn seiliedig ar y wybodaeth yn y dogfennau uchod ac unrhyw ymweliadau ag ysgolion.

Fforwm Derbyniadau Ysgol Wrecsam

 Adroddiad Blynyddol

Gellir lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Iau yn y ffurfiau canlynol:

Adroddiad Blynyddol - Fformat PDF 100Kb


Trefniadau Derbyn Disgyblioni Ysgolion

Yn unol ag Adran 89 y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, rwy’n ysgrifennu atoch chi i ymgynghori ynghylch Trefniadau Derbyn arfaethedig Wrecsam ar gyfer 2012/13. Rhaid penderfynu ar y trefniadau erbyn 15 Ebrill 2011, a rhaid gorffen yr ymgynghoriad erbyn 1 Mawrth 2011. Yr ymgynghoreion statudol ydy cyrff llywodraethol yr holl ysgolion, yr awdurdodau esgobaethol a’r awdurdodau lleol cyfagos.

Dylai pob rhiant sy'n ceisio am le mewn ysgol ar gyfer mis Medi 2012 wneud yn siŵr fod eu ceisiadau wedi eu cyflwyno o fewn yr amserlenni a gyhoeddir isod. Mae ALl Wrecsam yn gweithredu mynediad sengl ym mis Medi bob blwyddyn. Dylai eich plentyn gyrraedd yr oedran isod er mwyn cymhwyso:

Ysgol Gyfredol Ysgol Newydd Oedran erbyn 31/08/2012
Amherthnasol Meithrin 3
Meithrin Derbyn Babanod/Cynradd 4
Babanod Iau 7
Cynradd/Iau Uwchradd 11

Amserlen Derbyniadau 2012/2013

Cynodau Derbyn Ffurflen Derbyn ar gael I rieni wythnos yn dechrau Cyfnod I rieni ystyried Ffurflenni cyflawn yn cael eu dychwelyd I ysgolion/dyddiad cau’r ALl Cyfnod dyrannu gan yr ALl/ awdurdod derbyn Rhieni’n cael gwybod erbyn
Uwchradd 05/09/11 05/09/11 hyd 31/10/11 31/10/11 01/11/11 hyd 03/02/12 01/03/12
Babanod - Iau 05/09/11 05/09/11 hyd 31/10/11 31/10/11 01/11/11 hyd 09/03/12 23/03/12
Derbyn   05/09/11 05/09/11 hyd 31/10/11 31/10/11 01/11/11 hyd 09/03/12 23/03/12
Meithrin 04/01/12 04/01/12 hyd 20/02/12 20/02/12 21/02/12 hyd 05/04/12 20/04/12

Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir yn cael eu hystyried gyda'i gilydd a'u hasesu yn erbyn meini prawf yr Awdurdod. Ni roddir blaenoriaeth i'r ceisiadau a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau wrth ddyrannu llefydd.

Ystyrir ceisiadau hwyr gan ddefnyddio'r un meini prawf a gyhoeddwyd, ond pe digwyddai ysgol fod yn rhy llawn, yna caiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau. Golyga hyn efallai y bydd gan rieni lai o gyfle i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol os ydynt yn anfon eu ffurflen ar ôl y dyddiad cau. Cysyllter â'r Swyddog Derbyn am fwy o wybodaeth: Rhif ffôn 01978 298814

Amserlen Mynediad Ysgolion

Mae'r rhain ddogfen ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau canlynol:

Amserlen Mynediad Ysgolion - Fformat PDF 74Kb

Noson Agored Ysgolion Uwchradd 2010

Ysgolion Uwchradd Dyddiad
Ysgol Uwchradd Rhosnesni Dydd Mercher 21 Medi 2011
5.30pm – 7.30pm
Mr G Hughes - 01978 340840
Ysgol y Grango Dydd Mercher 21 Medi 2011
7pm
Mrs Angela Hughes - 01978 833010
Ysgol Clywedog Dydd Mercher 28 Medi 2011
6pm – 8pm
Mrs Vicky Barlow - 01978 346800
Ysgol Maelor Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011
7pm -9pm
Diwrnod Agored Mercher 5 Hydref; 9.30 - 12.15pm; 1.40 - 3.15pm.
Mr S Ellis - Pennaeth - 01948 830291
Ysgol Morgan Llwyd Dydd Mawrth 4 Hydref 2011
5.30pm – 7.30pm
Mrs Heddus Blackwell - 01978 315050
Ysgol Uwchradd Darland Dydd Iau 6 Hydref 2011
10.45am - 12.30pm ;1.45pm -3.30pm ; 6.30pm -8.30pm
Mr P Agnew - 01244 570588
Ysgol Rhiwabon Dydd Iau 29 Medi 2011
5pm
Mr John Hotchkiss, Pennaeth Cynorthwyol - 01978 822392
Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff Dydd Iau 11 Hydref 2011
6pm - 8pm
Mr Richard Woods - Dirprwy Bennaeth - 01978 360310
Ysgol Uwchradd Bryn Alun Dydd Mawrth 11 Hydref 2011
Teithiau yn ystod o dydd: 9.30am mlaen
Gweithgareddau i Ymwelwyr: 5pm - 8pm
Anerchiad y Pennaeth: 6pm - 6.15pm
Mr Brian Whiteley - 01978 720700

Ewch i'r dderbynfa ynghylch y teithiau. Ewch i'r Neuadd am anerchiadau athrawon. Bydd y gweithgareddau mewn amrywiaeth o adrannau a bydd arwyddion i ddangos lle.

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word


Cysylltiadau Perthnasol

Polisi Derbyniadau | Polisi Cludiant | Cysylltiadau Addysg | Polisi Iaith Gymraeg | Polisi Meithrin | Meini Prawf Derbyniadau | Gweithredu Derbyniadau

yn ôl i'r brig