Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol (1998) yn eich galluogi i fynegi dewis am yr ysgol iau y dymunwch i’ch plentyn/plant ei mynychu. I’ch helpu, gofynnir i’r Awdurdod Lleol (ALl) gyhoeddi peth gwybodaeth am ei ysgolion a pholisïau a fydd, yn ogystal â’r prosbectws y mae’r ysgol wedi ei baratoi, yn eich helpu i ddatgan dewis.
Gweler y cyswllt i Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam am wybodaeth bellach. Mae copïau pellach ar gael yn ysgolion a swyddfeydd yr Awdurdod ac yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, er mwyn i chi eu darllen. Os hoffech ymweld ag ysgol cyn mynegi dewis, dylech drefnu apwyntiad gyda’r pennaeth. Gallwch fynegi eich dewis ar sail y wybodaeth a geir yn y dogfennau a’ch ymweliad â’r ysgol(ion) wedyn.
Sylwer nad yw’r gyfraith yn caniatáu i chi ddewis ysgol i’ch plentyn, dim ond datgan dewis i’ch plentyn/plant fynd i ysgol benodol. Wrth gwrs, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod eich plentyn yn cael lle yn eich dewis ysgol.
Bydd yr Awdurdod yn derbyn cyfeiriad cartref y disgybl yn unig ac nid, er enghraifft, cyfeiriad y gwarchodwr neu nain a thaid. Gellir gofyn i rieni ddarparu dogfennau swyddogol yn dangos cyfeiriad cartref. Cynghorir rhieni y gellir gwrthod lle ysgol os yw’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol. Gallai hyn olygu na fydd lle ar gael i’ch plentyn yn eich ysgol agosaf nesaf. Os na all dau riant gytuno ar ddewis ysgol, rhaid iddynt gael cyngor cyfreithiol annibynnol ac, os bydd angen, gorchymyn llys priodol cyn cyflwyno’r un ffurflen gais i’r ALl.
Os oes gan eich plentyn anabledd a allai effeithio ei ch/gynnydd a chyfranogiad ym mywyd yr ysgol, nodwch hyn ar y ffurflen.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, bydd yr ALl yn gwneud ei orau i ganiatáu eich dewis o ysgol iau ond mae’n rhaid iddo sicrhau y gall yr ysgol fodloni anghenion eich plentyn hefyd. Pan dderbyniwn eich ffurflen, bydd swyddog yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu atoch ac mae’n bosibl y bydd modd trefnu cyfarfod i drafod addysg eich plentyn yn yr ysgol iau.
Os oes gan eich plentyn frawd neu chwaer hyn wedi eu cofrestru yn yr ysgol eisoes a fydd yn dal i fod ar y gofrestr pan fydd y plentyn iau’n dechrau, nodwch hyn ar y ffurflen dderbyn gan roi eu henwau a dyddiadau geni.
Gallwch lawrlwytho a chwblhau ffurflen dderbyn a’i dychwelyd at bennaeth ysgol fabanod bresennol eich ysgol erbyn 31 Hydref 2011. Bydd yr ALl yn derbyn disgyblion hyd at nifer derbyn ysgolion; dangosir y niferoedd hyn yn y rhestr ysgolion yn y ‘Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr ar ôl y rhai sy’n cyrraedd erbyn y dyddiad cau. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cofio’r dyddiad cau y cyfeirir ato uchod. Lle bo’r ysgolion babanod ac iau lleol yn ysgolion ar wahân, ni ddylai rhieni ragdybio y caiff eu plant eu trosglwyddo’n awtomatig o reidrwydd.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd yn eich dewis ysgol, bydd yr awdurdod derbyn yn defnyddio’r meini prawf a gyhoeddir yn y Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam i ddyrannu lleoedd yn yr ysgol honno.
Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r broses ddyrannu ond byddwch yn cael gwybod erbyn 23 Mawrth 2012 p’un a roddwyd lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol ai peidio. Os na all yr ALl roi lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol, bydd gennych hawl i gyflwyno achos ger bron panel apeliadau annibynnol.
Os dymunwch apelio yn achos ysgol gymunedol neu ysgol a reolir, dylech ysgrifennu at y Prif Swyddog Dysgu a Chyflawniad. Ar gyfer disgyblion â datganiadau neu sydd yn y broses o gael datganiad, bydd y Swyddog Cefnogi Disgyblion, sy’n gweithio yn Stryt yr Arglwydd, yn delio â hyn a gallwch ei ffonio ar (01978) 297505.
Rheolir derbyniadau i ysgolion iau cymunedol ac ysgolion iau a reolir gan bolisi derbyniadau’r Awdurdod. Os dewiswch ysgol gymunedol neu a reolir heblaw am yr ysgol iau agosaf, ni fydd yr Awdurdod mewn sefyllfa i gynnig cludiant i’ch plentyn/plant ac, o ganlyniad, chi fydd yn gyfrifol am wneud a thalu am y trefniadau hyn. Mae manylion am y polisi cludiant wedi eu nodi yn y Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam.
Os bydd eich sefyllfa yn newid a bod angen newid eich dewis ysgol ond eich bod wedi dychwelyd y ffurflen dderbyniadau eisoes, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyniadau ar 01978 297505.
Gweld rhestr o ysgolion o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>
Gellir lawrlwytho'r Pecyn Derbyniadau Iau yn y ffurfiau canlynol:
Pecyn Derbyniadau Iau - Fformat Word 77kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Iau - Fformat PDF 71kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Iau - Fformat Testun Plaen 433kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Cyfeiriad:
Galw Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam
LL11 1LG
Ebost:A&T@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 297505
Wyneb yn wyneb:
Galw Wrecsam
16 Stryt yr Arglwydd
Wrecsam