Trosglwyddo Disgyblion i Ysgolion Uwchradd Medi 2012Cyngor i Rieni a Gofalwyr ar Gwblhau'r Ffurflen Atodedig
1. Pam wyf i'n gorfod llenwi'r ffurflen ddewis?
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol roi'r cyfle ichi enwi'r dewis ysgol yr hoffech i'ch plentyn fynd iddi, a rhoi rhesymau dros eich dewis. Mae'r Awdurdod Derbyn perthnasol yn gorfod cynnig lle yn ôl yr hoff ddewisiadau, hyd at rif derbyn cyhoeddedig pob ysgol (*sydd wedi'i gyhoeddi yn 'Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam'). Sylwer: bydd yr ALl yn gwneud ei orau glas i sicrhau bod eich plentyn yn mynd i'ch dewis ysgol, serch hynny nid oes gan eich plentyn unrhyw hawl, ohono'i hun, i gael ei addysgu yn eich dewis ysgol. Mae rhieni'n gallu enwi hyd at 3 dewis a dangos beth yw eu trefn dewis.
2. Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn llenwi a dychwelyd y ffurflen ddewis?
Os na fyddwch chi’n llenwi a dychwelyd y ffurflen hon erbyn y dyddiad gofynnol yna efallai na fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu cynnig lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol yn ardal Wrecsam (mae hyn yn cynnwys ysgolion eglwys a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig) ar gyfer mis Medi 2012.
3. Os byddaf yn gofyn am ysgol wahanol, ar wahân i’r ysgol uwchradd addas agosaf, a fyddaf i’n cael cludiant am ddim?
Byddwch cystal â darllen y Polisi Cludiant sydd wedi’i gyhoeddi yn ‘Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’. Os byddwch chi’n dweud nad eich ysgol addas agosaf yw’ch dewis ysgol, yna eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud trefniadau, a thalu amdanynt, er mwyn i’ch plentyn fynd i’r ysgol honno.
4. Mae gennyf blentyn hŷn sydd eisoes yn mynd i’m dewis ysgol – a wyf i’n dal i orfod anfon y ffurflen hon?
Ydych, rydych chi’n dal i orfod llenwi a dychwelyd y ffurflen.
5. Os na chaf le yn fy newis ysgol gyntaf, ac nad honno yw fy ysgol uwchradd agosaf, a fyddaf i wedyn yn gallu cael lle yn fy ysgol agosaf?
Os byddwch chi’n dweud mai’ch dewis cyntaf yw ysgol ar wahân i’r ysgol uwchradd agosaf a bod eich cais yn aflwyddiannus, yna fe roddir ystyriaeth i’ch hoff ddewis (dewisiadau) arall (eraill) yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd gan yr awdurdod derbyn ynghylch mwy o ymgeiswyr nag o leoedd ar gael. Mae’r llyfryn gwybodaeth sydd wedi’i gynnwys gyda’r ffurflen hon, yn dangos faint o leoedd sydd ar gael ym mhob ysgol, a’r niferoedd a ragwelir ar gyfer mis Medi 2011. Dim ond bras amcan yw hyn ac fe allai’r sefyllfa fod yn wahanol yn 2012.
6. Os oes mwy o hoff ddewisiadau nag o leoedd ar gael yn fy newis ysgol, sut fydd y lleoedd yn cael eu neilltuo?
Caiff hoff ddewisiadau ynghylch lleoedd mewn ysgolion cymunedol ALl eu hystyried ar sail meini prawf ‘gormod o geisiadau’ cyhoeddedig yr Awdurdod sydd wedi’i gyhoeddi yn ‘Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’. Mae’r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen amgaeedig yn bwysig.
Bydd pob un o’r hoff ddewisiadau a dderbynnir o fewn y raddfa amser benodedig, sef 05/09/2011 hyd 31/10/2011, yn cael eu hystyried cyn y ceisiadau hwyr. Os bydd eich cais yn hwyr yna efallai na chynigir lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol a gynhelir yn Wrecsam ar gyfer mis Medi 2012, am fod yr ysgol yn llawn o bosibl.
Os byddwch yn dymuno cyflwyno amgylchiadau meddygol ac/neu seicolegol i ategu eich dewis am ysgol benodol, yna rydych chi’n gorfod amgáu tystiolaeth ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol neu seicolegydd.
Bydd dewisiadau am leoedd mewn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol gan eglwys ac ysgolion sefydledig yn cael eu hystyried yn ôl meini prawf derbyn cyhoeddedig yr ysgol honno. Bydd y polisïau derbyn yn cael eu cyhoeddi yn ‘Arweinlyfr y Rhieni a’r Gofalyddion ynghylch Gwasanaethau Addysg yn Wrecsam’ ac maent i’w gweld ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk trwy ddilyn dolen at Addysg a Dysgu, Derbyniadau a Throsglwyddiadau Ysgolion, Polisi Derbyn i Ysgolion.
7. Beth allaf i ei wneud os nad wyf yn cael fy hoff ddewisiadau?
Os na chewch chi’ch hoff ddewisiadau, fe ofynnir ichi enwi dewisiadau eraill. Os bydd hyn yn digwydd byddwch yn dal i fod â hawl i gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â bodloni eich dewis cyntaf (neu arall). Byddwch yn cyflwyno’r apêl i banel apêl annibynnol. Ni fydd cyflwyno apêl yn effeithio ar unrhyw le ysgol, ail ddewis, a neilltuwyd eisoes i’ch plentyn. Mae gwybodaeth am apeliadau derbyn i’w chael yn ‘Canllaw Rhieni a Gofalwyr i Wasanaethau Addysg yn Wrecsam’.
8. Rwyf yn gwneud cais i’r Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd a Gynorthwyir yn Wirfoddol (Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff), neu’r Ysgol Sefydledig (Ysgol Maelor, Llannerch Banna). A ddylwn i lenwi’r ffurflen?
Dylech, am fod yr ALl yn coladu’r wybodaeth hon ac yn ei rhoi i’r ysgol honno. Fodd bynnag, nid yr ALl yw’r awdurdod derbyn dros yr ysgolion hyn. Felly mae pob un o’r rhieni sy’n dymuno gwneud cais am le yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff neu yn Ysgol Sefydledig Maelor, Llannerch Banna, hefyd yn gorfod cysylltu â’r ysgol honno yn y lle cyntaf er mwyn trefnu apwyntiad i fynd i weld yr ysgol ac i gyfarfod â’r pennaeth. (Sylwer: nid cyfweliad yw hyn ond cyfle i’r rhieni gael gwybodaeth am y ddarpariaeth yn yr ysgolion hynny).
9. Rwyf yn gwneud cais i ysgol annibynnol neu i ysgol mewn awdurdod lleol arall, ar gyfer mis Medi 2012 – a ddylwn i lenwi’r ffurflen hon hefyd?
Dylech, am fod yr Awdurdod yn coladu’r wybodaeth hon ac yn ei rhoi i’r awdurdod allanol priodol. Hyd yn oed os mai’ch dewis cyntaf yw ysgol y tu hwnt i Fwrdeistref Sirol Wrecsam, mae’n hanfodol bwysig ichi ddefnyddio’r ffurflen hon hefyd i enwi dewis ysgol a gynhelir ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, rhag ofn y bydd eich cais am le mewn ysgol annibynnol neu y tu hwnt i’r Fwrdeistref Sirol yn aflwyddiannus. Dylech hefyd gysylltu â’r awdurdod derbyn priodol oherwydd y gallai fod rhaid ichi lenwi ffurflenni ychwanegol.
Os yw’ch plentyn eisoes wedi cael cynnig lle pendant mewn ysgol annibynnol neu un o’r ysgolion eraill a gynhelir gan yr ALl, cofiwch ddweud hyn ar eich ffurflen gais.
10. Allaf i ddefnyddio cyfeiriad gwahanol, ar wahân i gyfeiriad y cartref, ar gyfer cais fy mhlentyn?
Na allwch, dim ond cyfeiriad cartref y disgybl fydd yr Awdurdod yn ei dderbyn. Ni fydd yn derbyn cyfeiriad gwarchodwr plant neu nain a thaid, er enghraifft. Efallai y gofynnir i rieni ddarparu dogfennau swyddogol sy’n dangos cyfeiriad y cartref. Dylai rhieni sylweddoli y gallai lle mewn ysgol gael ei wrthod, yn gyfreithlon, os bydd yr wybodaeth a roddwyd ar y ffurflen gais yn dwyllodrus neu’n gamarweiniol ac fe allai hyn olygu na fyddai lle ar gael yn yr ysgol agosaf nesaf. Nid yw’r Awdurdod Lleol yn gallu derbyn dau gais am un plentyn. Felly mae’n rhaid i rieni wneud cydgytundeb neu gael Gorchymyn Llys priodol a chyflwyno un ffurflen gais yn unig.
11. Ar ôl llenwi’r ffurflen, i ble wyf i’n ei hanfon ac erbyn pryd?
Ar ôl llenwi’r ffurflen byddwch cystal â’i hanfon at bennaeth ysgol iau/gynradd bresennol eich plentyn erbyn 31 Hydref 2011. Nodwch y dyddiad hwn; os bydd mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, yna fe roddir y flaenoriaeth i geisiadau sy’n cael eu derbyn cyn y terfyn amser. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried cyn y rhai hynny a gyflwynwyd ar ôl y terfyn amser.
12. Pryd fyddaf i’n cael gwybod a yw’m plentyn wedi cael lle yn fy newis ysgol?
Byddwch yn cael gwybod cyn gynted ag y bydd y broses neilltuo wedi’i chwblhau. Beth bynnag sy’n digwydd, fe gewch wybod erbyn 1 Mawrth 2012 a gafodd lle ei neilltuo i’ch plentyn yn eich dewis ysgol ai peidio.
13. Rwy’n dal i fod yn ansicr am y trefniadau ac mae gennyf gwestiwn arall – i ble ddylwn fynd i gael rhagor o gyngor?
Cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau yn 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG neu ffoniwch 01978 297505
Ebost: A&T@wrexham.gov.uk
Os yw eich amgylchiadau’n newid a’ch bod am newid eich dewis ysgol, ond eich bod eisoes wedi dychwelyd y ffurflen dderbyn, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau ar 01978 297505.
Gellir rhestr o ysgolion o'n Cronfa Ddata Ysgolion >>
Gellir lawlwytho'r Pecyn Derbyniadau Uwchradd yn y ffurfiau canlynol:
Pecyn Derbyniadau Uwchradd - Fformat Word 164kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Uwchradd - fformat PDF 90kb ![]()
Pecyn Derbyniadau Uwchradd - Fformat Testun Plaen 382kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |