|
Sefydlwyd Paneli Apeliadau Addysg i glywed a phenderfynu apeliadau ar fynediad i ysgolion yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gwahardd ohonynt.
Maent yn dribiwnlysoedd annibynnol sy’n gorfod bod yn annibynnol ar Awdurdodau Addysg Lleol a Chyrff Llywodraethol. Mae paneli’n dibynnu ar aelodaeth wirfoddol ac mae eu penderfyniadau’n derfynol a chyfrwymol ar holl bartïon i apeliadau.
Mae Panel Apeliadau Addysg Wrecsam yn gorff annibynnol a sefydlwyd i ystyried apeliadau rhieni yn erbyn:
- Y penderfyniad i beidio â derbyn plentyn i ysgol benodol; neu
- Y penderfyniad i beidio â derbyn plentyn yn ôl a waharddwyd yn barhaol o ysgol.
Ar hyn o bryd rydym yn gofyn am geisiadau oddi wrth bobl sydd â diddordeb mewn dod yn Aelodau o’r Panel.
Pwy sy’n gallu dod yn aelod o’r panel?
Bob 3 blynedd, bydd y Cyngor yn hysbysebu’n gyhoeddus am aelodau newydd i wasanaethu ar Baneli a bydd holl aelodau newydd yn cael hyfforddiant priodol cyn clywed apeliadau. Daw aelodau’r Panel o amrywiaeth o gefndiroedd ac nid oes angen unrhyw gymwysterau arbennig. Gwahoddir ceisiadau gan bawb sy’n ystyried eu bod yn gymwys a chanddynt diddordeb mewn darpariaeth Addysg.
Mae Paneli Apeliadau Derbyn yn cynnwys 3 neu 5 o aelodau a chânt eu penodi o’r categorïau canlynol:-
- Pobl sydd â phrofiad o addysg; sy’n gyfarwydd ag amgylchiadau addysgol yn ardal yr Awdurdod Addysg Lleol; neu sy’n rhieni disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgol. Rhaid i un aelod o’r Panel o leiaf fod yn y categori hwn.
- Pobl sy’n gymwys i fod yn aelodau lleyg. Rhaid i bob Panel fod ag o leiaf un Aelod Lleyg, sef rhywun, a siarad yn gyffredinol, sydd heb fod wedi ymwneud yn broffesiynol â rhedeg ysgol nac addysgu mewn un. Nid yw hyn yn atal neb sy’n llywodraethwr ysgol (neu wedi bod yn un), neu sy’n ymwneud fel arall yn wirfoddol (e.e. ar y CRhA), rhag bod yn Aelod Lleyg.
Mae Paneli Apeliadau Gwahardd yn cynnwys 3 neu 5 o aelodau a ffurfiwyd o dri chategori:-
- Y Cadeirydd sy’n gorfod bod yn aelod lleyg, a ddiffiniwyd fel rhywun sydd heb weithio mewn ysgol am dâl o unrhyw fath.
- Rhaid i un (neu ddau mewn Panel pum aelod) fod yn Llywodraethwr Ysgol (sy’n gorfod bod wedi gwasanaethu am 12 mis yn olynol o fewn y 6 blynedd diwethaf a heb fod wedi bod yn bennaeth ysgol nac yn athro neu athrawes yn ystod y pum mlynedd diwethaf).
(iii) Rhaid i un (neu ddau mewn Panel pum aelod) fod, neu fod wedi bod o fewn y pum mlynedd diwethaf, yn bennaeth neu rywun arall sy’n gweithio ar hyn o bryd ym myd rheoli addysg.
Allaf i ddod yn aelod o banel?
Oherwydd ei bod yn bwysig bod y Panel Apeliadau Addysg yn annibynnol a diduedd nid yw rhai pobl yn gymwys i ddod yn aelodau o’r Panel, er enghraifft gweithwyr cyflogedig yr Awdurdod Addysg Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys, cysylltwch â Chlerc y Panel Apeliadau Addysg i gael cyngor.
O bryd i’w gilydd, fe all fod adegau pan na allwch fod ar Banel Apeliadau arbennig. Mae hyn oherwydd na ddylai aelod Panel fod â budd yng nghanlyniad yr apêl. Er enghraifft, os ydych yn Llywodraethwr yn yr ysgol dan sylw, neu os yw eich plentyn yn mynd i’r ysgol benodol, ni ddylech wrando apeliadau ar yr ysgol honno, neu os ydych yn adnabod yr apelydd neu’r teulu. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall y Panel weithredu, a chael ei weld yn gweithredu, yn deg ac yn ddiduedd bob amser.
Cyn belled â bod Clerc y Panel Apeliadau Addysg yn ymwybodol o unrhyw gysylltiad sydd gennych ag ysgol yn y Fwrdeistref ni fydd yn gofyn i chi fod ar Banel sy’n gwrando apeliadau ar yr ysgol honno.
Bydd aelodau Paneli’n clywed cryn dipyn o wybodaeth gydgyfrinachol ynghylch disgyblion a rhieni. Felly, mae tawgarwch a gonestrwydd yn rhinweddau pwysig. Rhaid i agwedd aelodau Paneli at bob apêl fod yn annibynnol a diduedd. Rhaid iddynt fod yn wrandawyr da – a chael eu gweld yn gwrando trwy ofyn cwestiynau a bod â diddordeb mewn clywed dwy ochr y ddadl. Dylent allu gwahanu rhwng ffeithiau perthnasol ac amherthnasol a, than arweiniad y cadeirydd, dod i benderfyniad rhesymedig.
Faint o fy amser fyddwn i’n gorfod ei roi?
Mae’r panel yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn gydag Apeliadau’n cael eu clywed yn ôl y gofyn. Yn gyffredinol bydd apeliadau’n digwydd yn ystod oriau gwaith ac, fel arfer, cânt eu cynnal mewn Ystafell Bwyllgora yn Neuadd y Dref, Wrecsam.
Caiff y Panel ei ffurfio o dri i bum Aelod a dynnwyd o gronfa.
O ran Apeliadau Derbyn, mae’r mwyafrif yn cael eu clywed rhwng Mai a Gorffennaf, gyda phob apêl yn cymryd rhwng 30 a 45 munud yn gyffredinol. Fel arfer, bydd bore neu brynhawn yn cael ei neilltuo i glywed nifer o apeliadau. Weithiau mae ymrwymiad i ddiwrnod llawn. Yn achlysurol, gall apeliadau gael eu clywed dros nifer o ddiwrnodau, er enghraifft pan fydd llawer o apeliadau perthnasol i ysgol boblogaidd iawn. Fodd bynnag bydd Clerc y Panel Apeliadau Addysg bod amser yn cysylltu â chi ymlaen llaw i weld a ydych ar gael.
Yn gyffredinol mae Apeliadau Gwahardd yn para rhwng 1½ a 2 awr. Dylech allu bod ar gael i glywed apeliadau ar fyr rybudd, er y bydd digon o rybudd yn cael ei roi fel arfer.
A oes hyfforddiant i’w gael?
Oes. Bydd staff Adrannau Gwasanaethau Addysg a Chyfreithiol a Democrataidd y Cyngor yn trefnu sesiynau hyfforddi.
Fyddaf i’n cael fy nhalu?
Yn anffodus na fyddwch ond, fodd bynnag, bydd eich treuliau teithio’n cael eu had-dalu a bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.
Sut mae gwneud cais?
Os ydych yn dal â diddordeb mewn ymuno â’n cronfa o aelodau paneli, dylech lenwi’r Ffurflen Gais atodol yn llawn a’i dychwelyd i’r cyfeiriad isod:
Clerc y Panel Apeliadau Addysg
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Ffacs: (01978) 292207
E-bost: EducationAppealsPanel@wrecsam.gov.uk
Yna byddwn yn cadarnhau eich bod yn gymwys i ddod yn aelod o Banel ac, os felly, byddwn yn cysylltu â chi maes o law gyda manylion sesiynau hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Ffion Williams ar 01978 292228.
Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - Derbyn a Gwahardd
Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol
Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - fersiwn Word 29Kb 
Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgol - fersiwn PDF 26Kb 
Ffurflen Gais Paneli Apêl Addysg Ysgolm - fersiwn Testun Plaen 30Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|